Orcloth a ddywedodd:Sori Hazel, dwi ddim yn dallt be ti'n ofyn i mi parthed "brenin y mynydd"......
Welais i rioed dwrci gwyllt o gwmpas Sir Fon - digon o ffesantod ac ambell i greyr weithiau.
Twrci gawn ni i ginio Dolig, dwi wedi ei archebu ers mis Medi - un fydd wedi mwynhau ei fywyd ar fferm fy mrawd-yng-nghyfraith. Iym iym, fedrai'm disgwyl - roedd yr un gawsom llynedd (o'r un lle), yn fendigedig - werth bob ceiniog (drud) dalais amdano fo!
"Brenin y mynydd" = Yn America, dywedwn ni "king of the hill". Mae hi'n gêm - pwy mae'n gallu sefyll ar ben y bryn - uwchben pawb arall?
Mae gwartheg yn gwneud yr un beth pan mae 'na laid ar y maes.
O'r gorau?