Tudalen 2 o 2

Re: Cinio Diolchgarwch

PostioPostiwyd: Sul 29 Tach 2009 3:01 pm
gan Hazel
Orcloth a ddywedodd:Sori Hazel, dwi ddim yn dallt be ti'n ofyn i mi parthed "brenin y mynydd"......

Welais i rioed dwrci gwyllt o gwmpas Sir Fon - digon o ffesantod ac ambell i greyr weithiau.

Twrci gawn ni i ginio Dolig, dwi wedi ei archebu ers mis Medi - un fydd wedi mwynhau ei fywyd ar fferm fy mrawd-yng-nghyfraith. Iym iym, fedrai'm disgwyl - roedd yr un gawsom llynedd (o'r un lle), yn fendigedig - werth bob ceiniog (drud) dalais amdano fo!


"Brenin y mynydd" = Yn America, dywedwn ni "king of the hill". Mae hi'n gêm - pwy mae'n gallu sefyll ar ben y bryn - uwchben pawb arall?

Mae gwartheg yn gwneud yr un beth pan mae 'na laid ar y maes.

O'r gorau?

Re: Cinio Diolchgarwch

PostioPostiwyd: Sul 29 Tach 2009 6:40 pm
gan Orcloth
A, dwi'n gweld (dwi'n meddwl), Hazel - dweud wyt ti mai brenin y mynydd yw'r eryr, ia?

Re: Cinio Diolchgarwch

PostioPostiwyd: Sul 29 Tach 2009 6:52 pm
gan Hazel
Orcloth a ddywedodd:A, dwi'n gweld (dwi'n meddwl), Hazel - dweud wyt ti mai brenin y mynydd yw'r eryr, ia?


Ia. Mae'r eryr moel yn "brenin y mynydd". Mor fawreddog ydy o.

Re: Cinio Diolchgarwch

PostioPostiwyd: Llun 30 Tach 2009 9:48 am
gan Orcloth
Yndi, dwi'n cytuno hefo chdi yn fanna - mae'n fendigedig o dderyn, wir. Lwcus ydych chi'n America - dim ond blodyn melyn neu bwnshiad o ddail hyll sydd gennym ni fel arwydd o'n cenedlaetholdeb yma wrth gwrs - ddim hanner mor ddeniadol a'ch eryr chi, nacdi?

Re: Cinio Diolchgarwch

PostioPostiwyd: Llun 30 Tach 2009 12:27 pm
gan Hazel
"Dim ond blodyn melyn"? Cennin Pedr? Maen' nhw'n hyfryd. Hefyd, mae gan nhw priodweddau iachâd, dywedant nhw. Does 'na ddim aderyn cenedlaethol Cymraeg?
O'r gorau. Beth am y wylogod ("guillemots")? Dw i wastad yn meddwl am y wylogod yng Nghrymu, yn Ynys Môn yn enwedig.

Fodd bynnag, mae 'na lawer o harddwch fan'na. http://globalwales.ning.com:80/video/in ... e-taliesin

Mwynhwch.

Re: Cinio Diolchgarwch

PostioPostiwyd: Llun 30 Tach 2009 2:11 pm
gan Orcloth
Diolch i ti Hazel, roedd y fideo'n wych, hardd iawn. Dwi'n cytuno hefo chdi fod y cenin pedr yn flodyn hardd iawn, ond mi fysai'n braf cael aderyn neu anifail pert (fel eich eryr chi) hefyd, bysa? Dwn i ddim be fyswn i'n awgrymu, chwaith! Dwi'n gwybod bod ganddon ni'r ddraig goch wrth gwrs, ond unrhyw awgrymiadau eraill?

Re: Cinio Diolchgarwch

PostioPostiwyd: Llun 30 Tach 2009 2:46 pm
gan Hazel
Orcloth a ddywedodd:Diolch i ti Hazel, roedd y fideo'n wych, hardd iawn. Dwi'n cytuno hefo chdi fod y cenin pedr yn flodyn hardd iawn, ond mi fysai'n braf cael aderyn neu anifail pert (fel eich eryr chi) hefyd, bysa? Dwn i ddim be fyswn i'n awgrymu, chwaith! Dwi'n gwybod bod ganddon ni'r ddraig goch wrth gwrs, ond unrhyw awgrymiadau eraill?


anifail? Y wiweri goch? Mae'r wiweri goch yn neis.

aderyn? Dw i eto'n dewis y gwylog (guillemot)

Pam na ddechrau ymgyrch? Mentrwyd ddim; enillwyd ddim. Cywir?