Wel mi wnes i fewngofnodi i ddatgan y ffaith ei bod hi'n Sul Cyntaf yr Adfent yfory/heddiw efo chi.
Fe âf i'r Eglwys yfory am wyth y bore i weld cannwyll yr Adfent yn cael ei goleuo ac i'm hatgoffa bod 'goleuni y byd' ar ei ffordd.
Wel wrth gwrs dwi'n ymhyfrydu yn y ffaith bod y Nadolig yn dynesu ac mi fedrai deimlo y cyffro yn barod. Ac i'r sawl sy'n pw pwio hyn wel tyff bîns ddweda i ac mae i bawb ei ddewis.
Fy newis i ydi ymhyfrydu yng ngobaith goleuni y Nadolig ac mae'r gwrthwyneb sef tywyllwch dudew y fall yn rhy hurt i'w amgyffred!