Tudalen 1 o 1

Eid Al Adha a Diolchgarwch r'un Adeg

PostioPostiwyd: Llun 30 Tach 2009 2:53 am
gan Blewyn
Handi te ? Mi gafodd y wraig 9 diwrnod off o'r gwaith am fod Eid yn disgyn rhwng dwy benwythnos (Iau a Gwener yma, nid Sadwrn a Sul) felly off a hi ar wib i fwynhau Diolchgarwch efo ffrindiau o Texas (a mae pobl Texas yn gwybod sut i fwynhau Diolchgarwch) yn Dubai, efo'r tyrrau yn crymblo o'i cwmpas a strydau gwag yn ol bob son yn y papurau. Dwi yn fy ngwaith - cefais mond 6 awr off er mwyn i'r criw tyllu gael mynd i ddeud eu paderau, ond mae 6 awr well na cic yn din.

Diolchgarwch Hapus a Eid Mubarak i bawb !

Re: Eid Al Adha a Diolchgarwch r'un Adeg

PostioPostiwyd: Llun 30 Tach 2009 4:00 am
gan Mali
he he ti'n swnio mewn hwylia da Blewyn ! Gobeithio dy fod ti wedi mwynhau dy chwech awr i ffwrdd......sa well gen i naw diwrnod 'de . 8)
Nôl i wylio hoci ia rwan ...