Tudalen 1 o 1

Re: Yn disgwyl

PostioPostiwyd: Mer 06 Ion 2010 3:55 pm
gan Emma Reese
Gad i ni wybod pan wnân nhw ddangos eu hwynebau dengar. Cerdd dda, gyda llaw!

Re: Yn disgwyl

PostioPostiwyd: Mer 06 Ion 2010 6:29 pm
gan dawncyfarwydd
Lôn Groes a ddywedodd: O Lili wen fach, o ble daethost di,
A'r gwynt mor arw ac mor oer ei gri?
Sut y mentraist di allan drwy'r eira i gyd?
Nid oes flodyn bach arall i'w weld yn y byd!

Ond mae gennyt fantell dros dy wisg wen,
A'r ffordd fwyaf dengar o blygu dy ben.
Nid oes eira na gwynt, nid oes dewin na gwrach,
All fentro gwneud niwed i'r lili wen fach.

Sori, ond dwi jyst yn methu cael blewyn bach gwyn Dafydd Iwan allan o 'mhen.

Re: Yn disgwyl

PostioPostiwyd: Mer 06 Ion 2010 7:40 pm
gan Duw
Sori, ond dwi jyst yn methu cael blewyn bach gwyn Dafydd Iwan allan o 'mhen.


Mae pen = ceg yn f'ardal i - sy braidd yn newid ystyr y frawddeg - ych. :lol:

Re: Yn disgwyl

PostioPostiwyd: Sad 09 Ion 2010 6:54 pm
gan Hazel
Mae gan yr eirlys bach llawer o sylw o achos ei ddewrder. Pwy a fyddai'n mentro blodeuo yn mis Ionawr? "Wyt Ionawr yn oer".

Yr Eirlys

Y siriol eirlys eirian, -- ar wyw faes
Ceir efe, ei hunan,
A theg glog, -- fel gobaith glân,
Yn gwenu uwch cwsg anian.
---Robert Francis Williams

Re: Yn disgwyl

PostioPostiwyd: Sul 10 Ion 2010 8:53 pm
gan Mali
dawncyfarwydd a ddywedodd:
Lôn Groes a ddywedodd: O Lili wen fach, o ble daethost di,
A'r gwynt mor arw ac mor oer ei gri?
Sut y mentraist di allan drwy'r eira i gyd?
Nid oes flodyn bach arall i'w weld yn y byd!

Ond mae gennyt fantell dros dy wisg wen,
A'r ffordd fwyaf dengar o blygu dy ben.
Nid oes eira na gwynt, nid oes dewin na gwrach,
All fentro gwneud niwed i'r lili wen fach.


Sori, ond dwi jyst yn methu cael blewyn bach gwyn Dafydd Iwan allan o 'mhen.


Aha , yr alaw ! http://phobos.apple.com/WebObjects/MZStore.woa/wa/viewAlbum?playlistId=155877741&s=143444&i=155878261
Ond beth am y geiriau , a be di'r blewyn gwyn ?

Re: Yn disgwyl

PostioPostiwyd: Sul 10 Ion 2010 8:56 pm
gan Mali
Hazel a ddywedodd:Mae gan yr eirlys bach llawer o sylw o achos ei ddewrder. Pwy a fyddai'n mentro blodeuo yn mis Ionawr? "Wyt Ionawr yn oer".

Yr Eirlys

Y siriol eirlys eirian, -- ar wyw faes
Ceir efe, ei hunan,
A theg glog, -- fel gobaith glân,
Yn gwenu uwch cwsg anian.
---Robert Francis Williams


Mae honna'n gerdd hyfryd iawn Hazel, ac yn un dwi heb ei chlywed o'r blaen . Diolch yn fawr i ti am ei chynnwys hi. :D
Blwyddyn newydd dda i ti !

Re: Yn disgwyl

PostioPostiwyd: Llun 11 Ion 2010 3:08 am
gan Lôn Groes
Emma Reese a ddywedodd:Gad i ni wybod pan wnân nhw ddangos eu hwynebau dengar. Cerdd dda, gyda llaw!


Dwi'n dal i ddisgwyl yn hyderus.
Dwi'n dal i ddisgwyl i'r eirlysiau addfwyn ddangos eu hwynebau i'r flwyddyn 2010.
Heddiw, ac ynghanol y gwlaw, fe euthum i'm hoff fangre, gan ddisgwyl eu gweld yn eu gogoniant.
Ond ofer fu'r siwrna.
Ond pan ddeuant i'r amlwg ar eu diwrnod apwyntiedig yna mi fydda innau hefyd fel Cynan gynt yn gorfoleddu:

'Oblegid pan ddeffroais
Ac agor heddiw'r drws,
Fel ganwaith yn fy hiraeth,
Wele'r eirlysiau tlws,
"Oll yn eu gynnau gwynion
Ac ar eu newydd wedd
Yn debyg idd eu Harglwydd
Yn dod i'r lan o'r bedd." ' ( Eirlysiau: Cynan) :)

Re: Yn disgwyl

PostioPostiwyd: Sul 17 Ion 2010 9:49 pm
gan Lôn Groes
Emma Reese a ddywedodd:Gad i ni wybod pan wnân nhw ddangos eu hwynebau dengar. Cerdd dda, gyda llaw!


Dyma nhw o'r diwedd!
Mae hi wedi bod yn wlyb a gwyntog iawn ar lannau'r Tawelfor ond ddoe cawsom seibiant bach rhag y storm ac fe aethom i'r fangre apwyntiedig; ac yno yr oeddynt yn disgwyl amdanom.
Mae o'n rhyw le digon dinod ar ochr y ffordd tu allan i'r pentref. Ond hwyrach mai dyma'r rheswm eu bod nhw wedi parhau cyhyd rhag cael eu hysbeilio.
Dim ond twmpath bychan ohonynt sydd 'na yn tyfu'n dawel dan gysgod y weiren bigog.
Ond er cyn lleied eu rhif rwy'n andros o falch i'w gweld.
Yfory fe awn i weld lliaws ohonynt yn tyfu yng ngardd un o'r buddigions lleol ond yr un fydd fy llawenydd :)

Delwedd

:D

Re: Yn disgwyl

PostioPostiwyd: Sul 17 Ion 2010 10:01 pm
gan Emma Reese
Mae'n ddel iawn! Diolch am y llun. Mi ddaw'r gwanwyn cyn pen dim felly.

Re: Yn disgwyl

PostioPostiwyd: Iau 18 Chw 2010 5:01 pm
gan Mali
A thra bod yr eirlysiau yn dod i ben yma, mae'r clip fideo gan y BBC yn dangos fod 'na garped ohonynt ar dir Castell Penrhyn yr wythnos hon.
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8510000/newsid_8517900/8517975.stm

Delwedd