Cofion da

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cofion da

Postiogan Hazel » Mer 13 Ion 2010 10:14 pm

Llaeth enwyn? Tatws llaeth? :-) Gwelwch ¶ 3 a 4.

http://www.cylchgrawnbarn.com:80/index. ... Itemid=294
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Cofion da

Postiogan Mali » Mer 13 Ion 2010 10:57 pm

Diddorol iawn a diolch i ti am y linc Hazel.
Gan dy fod ti wedi cynnwys gwên , dwi'n cymeryd dy fod yn hoff iawn o datws llaeth ? :winc: Dwi ddim yn meddwl i mi erioed ei drio , nac wedi trio llaeth enwyn chwaith . Ond mi fyddai'n defnyddio menyn a llefrith wrth stwnshio tatws. Dim cweit run fath dwi'n gwybod.
Mi fydda fy nhaid yn hoff iawn o fara llaeth, ac mi fyddai'n ei gael yn aml cyn mynd i'w wely . 'Roedd yn setlo ei stumog medda fo. Heb drio hwnnw chwaith !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cofion da

Postiogan Hazel » Iau 14 Ion 2010 12:21 am

Dw i'n hoffi llaeth enwyn da iawn. Dw i'n ei yfed o'n aml. Mae'n dda i'r treuliad. Ond tatws llaeth? Hyd heddiw, doeddwn i ddim yn gwybod bod nhw'n gwneud tatws stwnsh efo llaeth enwyn. Rwy'n defnydd menyn a llefrith, fel ti. Serch hynny, bydda' i'n ei flasu o. Dywed rhai o fy nghyfeillion bod nhw'n defnydd hufen sur. Felly.... Er hynny, dw i'n meddwl fy mod i'n hoffi fy nhatws stwnsh mwyn. Bydden ni'n cael bara efo llefrith twym weithiau. Mae'n i fod i dy wneud ti'n cysgu'n dda.

Nos dawch.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Cofion da

Postiogan Mali » Gwe 15 Ion 2010 11:53 pm

Hazel a ddywedodd: Bydden ni'n cael bara efo llefrith twym weithiau. Mae'n i fod i dy wneud ti'n cysgu'n dda.


Ydi , mae'n dda ar gyfer hynny hefyd .
Wyt ti'n hoffi tatws popty Hazel ? 'Roeddem ni'n ei bwyta nhw fel arfer ar nos Sul , a'r adeg hynny 'roedd y tatws popty yn cael eu coginio yn y popty am tua 1 awr ar 400F .Rwan , wrth gwrs , mae'r taten popty yn cael ei baratoi yn y popty ping . Dim cystal blas wrth gwrs !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cofion da

Postiogan Hazel » Sad 16 Ion 2010 12:29 pm

"Dim cystal blas pan yn cael ei baratoi yn y popty ping"? Hmmm? Diddorol. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny. Does gen i ddim popty ping. Felly, popty henffasiwn i fy nhatws bopty.

Beth am datws melys pob? :D
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Cofion da

Postiogan Mali » Sad 16 Ion 2010 7:41 pm

Hazel a ddywedodd:"Dim cystal blas pan yn cael ei baratoi yn y popty ping"? Hmmm? Diddorol. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny. Does gen i ddim popty ping. Felly, popty henffasiwn i fy nhatws bopty.

Beth am datws melys pob? :D


Wwww fy ffefryn Hazel :D . Weithiau mi fyddaf yn eu cymysgu efo moron , nionyn coch a phanasen wedi eu torri [ ddim yn rhy fychan ] , rhoi ychydig o pam ac aunt Jemima syrup neu maple syrup drostynt . Mae'r arogl yn y gegin yn hyfryd wrth i'r llysiau goginio , a'r llysiau yn fendigedig efo unrhyw bryd. :D
Rhywbeth reit debyg i'r risaet yma, ond ychydig yn symlach.

Delwedd

Nôl at y tatws popty, fel arfer mi fyddai'n eu coginio yn y popty ping am tua 5 munud [ dibynnu ar faint y daten ] , wedyn eu trosglwyddo i'r popty go iawn :lol: [ 400F]am tua chwarter awr . Mae hyn yn safio amser , yn ogystal a gwneud croen y daten yn 'crispy ' . :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cofion da

Postiogan Hazel » Sad 16 Ion 2010 8:17 pm

Rydyn ni'n codi newyn arna i. :-).
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Cofion da

Postiogan sian » Sad 16 Ion 2010 8:23 pm

Mali a ddywedodd:
Hazel a ddywedodd:Wyt ti'n hoffi tatws popty Hazel ? 'Roeddem ni'n ei bwyta nhw fel arfer ar nos Sul , a'r adeg hynny 'roedd y tatws popty yn cael eu coginio yn y popty am tua 1 awr ar 400F .Rwan , wrth gwrs , mae'r taten popty yn cael ei baratoi yn y popty ping . Dim cystal blas wrth gwrs !


Beth yw tatws popty i ti? Yma, yng Ngwynedd (wel, Trefor beth bynnag), mae tatws popty'n golygu tatws wedi'u torri'n ddarnau eitha mawr, winwns, moron efallai, a rhyw fath o jops cig oen eitha rhad wedi'u neud yn y popty mewn rhyw fath o jiws neu grefi.

Dwi'n meddwl mai "taten trwy'i chroen" fydden nhw'n galw'r daten ti'n neud yn y popty ping. Mae'r blas dipyn yn gryfach yn y stof, tydi?

Rhywun yn gwybod beth yw tatws pum munud?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Cofion da

Postiogan Mali » Sul 17 Ion 2010 12:18 am

Helo Sian .....ia, taten bopty fyddai'n galw taten trwy'i chroen. Oes gan Hogia'r Wyddfa neu Hogia Llandygai gan yn cynnwys y geiriau 'tatws trwy'i crwyn' dwch ? Gyda llaw, mae dy datws popty ti yn swnio'n llawer mwy blasus. :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Cofion da

Postiogan Mali » Sul 17 Ion 2010 12:21 am

Hazel a ddywedodd:Rydyn ni'n codi newyn arna i. :-).


:lol: Sut fyddi di'n hoffi dy datws melys pob ?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nesaf

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron