Tudalen 2 o 2

Re: Cofion da

PostioPostiwyd: Sul 17 Ion 2010 1:12 pm
gan Hazel
Mali a ddywedodd:
Hazel a ddywedodd:Rydyn ni'n codi newyn arna i. :-).


:lol: Sut fyddi di'n hoffi dy datws melys pob ?


<<Sut fyddi di'n hoffi dy datws melys pob ?>>

Tatws melys pob? Dw i'n eu lapio nhw yn ffoil a'u rhoi nhw yn y popty am tua un awr. Dyna i gyd. Torri'r croen, mwtro a bwyta. Weithiau, rwy'n ychwanegu menyn a/neu siwgr coch ond, fel arfer, heb unrhywbeth arall.

Dywedwyd hynny, maen' nhw'n dda'n cael eu pobi efo cig moch sy'n cael siwgr coch a phin-afal. Ond mae hynny am gogyddion go iawn. Dydw i ddim yn gogyddes go iawn. A dwued y gwir, dydw i ddim yn gogyddes o gwbl. Ond does dim ots 'da fi. Dw i'n hoffi fy mwyd syml..

Re: Cofion da

PostioPostiwyd: Sul 17 Ion 2010 1:49 pm
gan Hazel
sian a ddywedodd:
Beth yw tatws popty i ti? Yma, yng Ngwynedd (wel, Trefor beth bynnag), mae tatws popty'n golygu tatws wedi'u torri'n ddarnau eitha mawr, winwns, moron efallai, a rhyw fath o jops cig oen eitha rhad wedi'u neud yn y popty mewn rhyw fath o jiws neu grefi.


Sian, mae hynny'n ei glywed go iawn. Roedden ni arfer gwneud hynny efo stêc Swis. Serch hynny, roedden ni'n ei gwneud hi mewn sgilet fawr - efo caead, wrth gwrs.

Re: Cofion da

PostioPostiwyd: Sul 17 Ion 2010 8:15 pm
gan Mali
Helo Hazel....Ydi mae siwgr brown yn dda arnynt hefyd .
Y ffordd ddiweddara o fwyta tatws melys ydi fel sglodion . Mae'n boblogaidd iawn yma , a nifer o lefydd bwyta yn ei gynnig ar y fwydlen erbyn hyn . Pan fyddwn yn mynd allan am bysgod a sglodion , mi fyddaf fel arfer yn gofyn am sglodion tatws melys . 8)
Dyma ni ...rhywbeth i godi awydd bwyd unwaith eto .
Delwedd

Re: Cofion da

PostioPostiwyd: Sul 17 Ion 2010 8:32 pm
gan Hazel
Hmmm???? Bydda' i'n meddwl amdani. :)

Re: Cofion da

PostioPostiwyd: Sul 17 Ion 2010 9:17 pm
gan sian
Sôn am datws melys - dw i wedi bod yn gwneud cawl tatws melys a choconyt yn ddiweddar.
Ges i e gynta ym mwyty'r Daflod yn Llithfaen a dw i wedi bod yn treio gwneud yr un peth gartre.

Hyfryd iawn!

Re: Cofion da

PostioPostiwyd: Llun 18 Ion 2010 6:51 pm
gan Mali
Mmmm blasus iawn Sian. Bydd rhaid i mi drio hwn ! :D

Re: Cofion da

PostioPostiwyd: Maw 19 Ion 2010 1:42 am
gan Gwen
sian a ddywedodd:Sôn am datws melys - dw i wedi bod yn gwneud cawl tatws melys a choconyt yn ddiweddar.
Ges i e gynta ym mwyty'r Daflod yn Llithfaen a dw i wedi bod yn treio gwneud yr un peth gartre.

Hyfryd iawn!


Mae hwn yn swnio'n neis ofnadwy. Faint o bob dim, Siân?

Re: Cofion da

PostioPostiwyd: Maw 19 Ion 2010 4:00 pm
gan sian
Mesur y fawd!

Coginio winwnsyn neu ddau mewn menyn ac olew olewydd ar waelod sosban drom.
Torri dwy neu dair taten felys, rhyw dair moronen, ac efallai hanner sweden neu banasen neu ddwy, yn ddarnau. Bach o seleri falle.
Eu rhoi yn y sosban a dŵr neu stoc drostyn nhw a'u berwi nes eu bod nhw'n feddal.
Blendio'r cyfan â blendiwr trydan fel ffon. Rhoi llaeth coconyt tun (tua hanner?) neu un neu ddwy sachet i mewn a'i flendio eto.
Alli di roi perlysiau neu sbeisys os ti'n moyn.

Hyfrydwch!

Re: Cofion da

PostioPostiwyd: Maw 19 Ion 2010 4:06 pm
gan Gwen
Diolch yn fawr! Mi fydd yn rhaid i mi drio hwn rwan...