Fe roeddwn yn yr archfarchnad y dydd o'r blaen yn gwneyd dipyn o siopa ac fe ddisgynodd fy llygaid ar lond bwrdd o friallu lliwgar.
Mae briallu acw yng Nghymru hefyd, mi wn, ac yr un mor addfwyn eu lliw.
Wedi edrych arnyn nhw am sbelan a'i hedmygu fy ddaeth geiriau John T. Jôb i'm cof.
Mae'r gerdd yn y Flodeugerdd Gymraeg: W J Gruffydd ac mae'r geiriau wedi sticio yn fy mhen i am ryw reswm.
Ac yno mae nhw wedi bod ers blynyddoedd hyd y gwn i.
Ond wrth edrych ar y briallu y diwrnod hwnnw byrlymodd y geiriau allan:
Pwy yw bugail y briallu,
Fwyn finteioedd ffridd a ffos?
Pa ryw lais a'u dysg i wenu
Yn y rhewynt ar y rhos?
Pa chwibanogl fu'n eu galw
O'u gaeafol hun mor bêr?
Hwythau'n deffro, yma ac acw,
Mor ddi-sw^n a'r milmyrdd sêr.
Beth am edrych ar y gerdd yn y gyfrol?
Hwyrach y cewch chwithau hefyd dipyn o fwynhad o'i darllen:)