Pwy yw bugail y briallu?

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwy yw bugail y briallu?

Postiogan Lôn Groes » Llun 01 Chw 2010 12:28 am

Fe roeddwn yn yr archfarchnad y dydd o'r blaen yn gwneyd dipyn o siopa ac fe ddisgynodd fy llygaid ar lond bwrdd o friallu lliwgar.
Mae briallu acw yng Nghymru hefyd, mi wn, ac yr un mor addfwyn eu lliw.
Wedi edrych arnyn nhw am sbelan a'i hedmygu fy ddaeth geiriau John T. Jôb i'm cof.
Mae'r gerdd yn y Flodeugerdd Gymraeg: W J Gruffydd ac mae'r geiriau wedi sticio yn fy mhen i am ryw reswm.
Ac yno mae nhw wedi bod ers blynyddoedd hyd y gwn i.
Ond wrth edrych ar y briallu y diwrnod hwnnw byrlymodd y geiriau allan:

Pwy yw bugail y briallu,
Fwyn finteioedd ffridd a ffos?
Pa ryw lais a'u dysg i wenu
Yn y rhewynt ar y rhos?

Pa chwibanogl fu'n eu galw
O'u gaeafol hun mor bêr?
Hwythau'n deffro, yma ac acw,
Mor ddi-sw^n a'r milmyrdd sêr.

Beth am edrych ar y gerdd yn y gyfrol?
Hwyrach y cewch chwithau hefyd dipyn o fwynhad o'i darllen:)

Delwedd
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Pwy yw bugail y briallu?

Postiogan Hazel » Llun 01 Chw 2010 2:19 pm

Ysbrydoliaeth? Mi ddangosais eich llun chi i fy nghyfaill. Rŵan, mae hi'n mynd i blannu briallu yn ei gardd hi yn Texas. Gobeithio bod nhw'n tyfu yna. Diolch i chi. Blodau bach pêr ydyn nhw.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Pwy yw bugail y briallu?

Postiogan Manon » Llun 01 Chw 2010 9:09 pm

Hyfryd! :)
Y linell gynta yn f'atgoffa i o bennill o Ddoi Di Dei

Pwy sy'n plannu'r blodau gwylltion, wy'st ti Dei?
'Nhad sy' pia'r rhos a'r pansi
Fo a fi fu yn eu plannu.
Blodau'r ddol- Pwy blannodd rheiny, wy'st ti Dei?
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron