Llewpart yr Eira.

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llewpart yr Eira.

Postiogan Lôn Groes » Llun 08 Chw 2010 10:27 pm

Hwyrach eich bod wedi clywed eisoes am Lewpart yr Eira, cynrychiolydd Ghana yn yr Olympics Gaeaf yn Vancouver eleni.
Wel mae o'n ymarfer ar Mount Washington ar Ynys Vancouver.
Cefais y fraint o'i gwrdd, ysgwyd llaw a dymuno'n dda iddo pnawn Sadwrn 'ma.
Mae tîm hoci iâ merched Sweden a Cheina yn ymarfer yma hefyd. A dyma'r agosaf y bydd y mwyafrif ohonom ar yr Ynys yn dod i weld a mwynhau'r Olympics; ar wahan i wylio pethau ar y teledu wrth gwrs.
Mae angen dipyn o arian y dyddiau yma i wylio a chymeryd rhan yn gêms y pobl gyfoethog.
Mi fydd yr Olympics yn Vancouver yn costio miloedd ac mi fydd yr elwa fel arfer yn mynd i bocedi rhyw lond llaw o bobl sy'n nofio mewn arian yn barod.
Mi fydd treth dalwyr Canada a thalaith British Columbia yn talu drwy'u trwynau am y Gêms am flynyddoedd i ddod.
Ond yn ôl at Kwame, Llewpart yr Eira.
Mae hwn yn cynnal ei hun ac yn rhedeg ar gardod a charedigrwydd pobol.
Ac er nad oes gan y creadur unrhyw obaith i ennill medal, pob lwc iddo ddweda i.
Dyma wir amatur ac mi fyddai'n ei ddilyn o a'i wylio trwy gydol ei antur ar y llethrau mawr ar Whistler Blackcomb a Cypress. :D

http://www.ctvolympics.ca/cross-country ... 29400.html
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Llewpart yr Eira.

Postiogan Hazel » Llun 15 Chw 2010 9:51 pm

Lôn, beth yw'r Lewpart yr Eira yn ei wneud nawr?
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Llewpart yr Eira.

Postiogan Lôn Groes » Maw 16 Chw 2010 5:25 am

Dyma wefan ar gyfer Llewpart yr Eira:

http://www.ghanaskiteam.com/newsite/

Mae'r tywydd yn eitha drwg ar Whistler a Cypress a'r cystadleuthau yn cael eu canslo ond rwy'n dal i gadw llygad ar hynt a helynt Llewpart yr Eira.
Os cewch fanylion amdano yna gadewch imi wybod. Diolch :D
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Llewpart yr Eira.

Postiogan Hazel » Maw 16 Chw 2010 11:14 am

Diolch, Lôn. Na fyddai'n neis cael syndod mawr?
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Llewpart yr Eira.

Postiogan Lôn Groes » Maw 16 Chw 2010 4:47 pm

Hazel a ddywedodd:Diolch, Lôn. Na fyddai'n neis cael syndod mawr?


Dyma ychwaneg o fanylion Hazel:
Bydd Kwame Nkrumah-Acheampong neu Llewpart yr Eira yn cystadlu yn y Slalom a'r Giant Slalom ar Whistler.
Dyma amserlen y gemau:

http://www.vancouver2010.com/olympic-schedule-results/

Lwc dda iddo :D
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Llewpart yr Eira.

Postiogan Hazel » Maw 16 Chw 2010 5:05 pm

Diolch, Lôn. Roedd gen i dyddiau ond dim amserau. Amserau yn dda i fi.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Llewpart yr Eira.

Postiogan Lôn Groes » Sul 28 Chw 2010 6:40 pm

Hazel a ddywedodd:Diolch, Lôn. Roedd gen i dyddiau ond dim amserau. Amserau yn dda i fi.


Dyma'r canlyniadau i Lewpart yr Eira yn ei ras fawr.
Fe wnaeth yn dda chwarae teg iddo :)
Mae'r tabl yn dangos gradd, y rhediad cyntaf a'r ail i Kwame Nkrumah-Acheampong .


http://www.vancouver2010.com/olympic-al ... 102kP.html
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Llewpart yr Eira.

Postiogan Hazel » Sul 28 Chw 2010 11:11 pm

Diolch. Do, fe wnaeath yn dda. Arhosodd yn y ras i'r diwedd.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai