Llewpart yr Eira.
Postiwyd: Llun 08 Chw 2010 10:27 pm
Hwyrach eich bod wedi clywed eisoes am Lewpart yr Eira, cynrychiolydd Ghana yn yr Olympics Gaeaf yn Vancouver eleni.
Wel mae o'n ymarfer ar Mount Washington ar Ynys Vancouver.
Cefais y fraint o'i gwrdd, ysgwyd llaw a dymuno'n dda iddo pnawn Sadwrn 'ma.
Mae tîm hoci iâ merched Sweden a Cheina yn ymarfer yma hefyd. A dyma'r agosaf y bydd y mwyafrif ohonom ar yr Ynys yn dod i weld a mwynhau'r Olympics; ar wahan i wylio pethau ar y teledu wrth gwrs.
Mae angen dipyn o arian y dyddiau yma i wylio a chymeryd rhan yn gêms y pobl gyfoethog.
Mi fydd yr Olympics yn Vancouver yn costio miloedd ac mi fydd yr elwa fel arfer yn mynd i bocedi rhyw lond llaw o bobl sy'n nofio mewn arian yn barod.
Mi fydd treth dalwyr Canada a thalaith British Columbia yn talu drwy'u trwynau am y Gêms am flynyddoedd i ddod.
Ond yn ôl at Kwame, Llewpart yr Eira.
Mae hwn yn cynnal ei hun ac yn rhedeg ar gardod a charedigrwydd pobol.
Ac er nad oes gan y creadur unrhyw obaith i ennill medal, pob lwc iddo ddweda i.
Dyma wir amatur ac mi fyddai'n ei ddilyn o a'i wylio trwy gydol ei antur ar y llethrau mawr ar Whistler Blackcomb a Cypress.
http://www.ctvolympics.ca/cross-country ... 29400.html