Mae digon o eira ar Whistler Blackcomb ond yn anffodus mae diffyg eira ar Cypress lle cynhelir nifer o gydstadleuthau Olympaidd.
Mae nhw wedi bod yn cludo dunelli o eira i Cypress o ardal Hope, rhyw 150km i'r Dwyrain o dref Vancouver.
Mae hi'n bwrw gwlaw yn Vancouver ar hyn o bryd a'r tymheredd yn 7C.
Y cysur ydi bod diffyg eira wedi bod yn rhan o brofiad Calgary yn 1988 a Turin yn ddiweddar.
Ond wnaeth hyn ddim niwed i'r gemau.
Mae Vanoc yn bur hyderus na fydd y broblem yma yn amharu a'r gêms.
Ond eira neu beidio fedra i ddim fforddio i fynd drosodd i Vancouver i weld y gemau Olympaidd gan fod pethau mor ddrud.
Caf siawns i weld y cystadlu a'r miri ar y teledu.