Eira?

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eira?

Postiogan Hazel » Mer 10 Chw 2010 1:44 pm

Dywedodd adroddwr newyddion y mae Whistler yn mewnforio eira ar gyfer yr Olympiadau. Yn gywir? Oes angen eira yno? Mae llawer o eira yna os oes eisiau. Tyrd ac ei dderbyn. :ing:
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Eira?

Postiogan Lôn Groes » Mer 10 Chw 2010 11:24 pm

Mae digon o eira ar Whistler Blackcomb ond yn anffodus mae diffyg eira ar Cypress lle cynhelir nifer o gydstadleuthau Olympaidd.
Mae nhw wedi bod yn cludo dunelli o eira i Cypress o ardal Hope, rhyw 150km i'r Dwyrain o dref Vancouver.
Mae hi'n bwrw gwlaw yn Vancouver ar hyn o bryd a'r tymheredd yn 7C.
Y cysur ydi bod diffyg eira wedi bod yn rhan o brofiad Calgary yn 1988 a Turin yn ddiweddar.
Ond wnaeth hyn ddim niwed i'r gemau.
Mae Vanoc yn bur hyderus na fydd y broblem yma yn amharu a'r gêms.
Ond eira neu beidio fedra i ddim fforddio i fynd drosodd i Vancouver i weld y gemau Olympaidd gan fod pethau mor ddrud.
Caf siawns i weld y cystadlu a'r miri ar y teledu. :D
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Re: Eira?

Postiogan Mali » Iau 11 Chw 2010 3:34 am

Dyle ni ddim cwylio bob dim da ni'n ddarllen yn y papur wrth gwrs, ond 'roeddwn i'n meddwl fod y cartŵn yma'n reit ddoniol. :lol:

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Eira?

Postiogan Hazel » Iau 11 Chw 2010 11:27 am

Yn aml, mae 'na mwy o wir mewn cartwnau na'r newyddion. :)

Fodd bynnag, os oes angen eira, daliwn i'w wneud o. :drwg:

Ie, Lôn. Mae'r pethau yn ddrud. Roedd hi'n fel hyn erioed. Ond o leiaf byddwch chi'n gynnes a sych o flaen y teledu.
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A


Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron