Mae'r cyfryngau ym Mhrydain ac yn enwedig y Guardian wedi bod yn eitha miniog eu tafod ac yn feirniadiol iawn o'r gemau Olympaidd Gaeaf yn Vancouver ac wedi mynd allan o'u ffordd fel petae i bwysleisio'r negyddol.
Ond mae 'na reswm am hyn.
Yn ôl Adrienne Arsenault CBC, sydd wedi ei lleoli yn Llundain, ymddengys nad yw'r 2012 Olympics a gynhelir yn Llundain yn boblogaidd iawn ym Mhrydain ac eisoes mae'r gost yn bedair gwaith mwy nag oedd ar y cychwyn.
Mae dilorni y gemau yn Vancouver yn ffordd gyfleus iawn i daflu dwr oer ar y gemau Olympaidd amhoblogaidd yn Llundain yn 2012.
Fel un sydd yn byw ar lannau'r Tawelfôr ac yn gwylio'r gemau yn gyson, fy argraff i yw bod trigolion Vancouver a'r cylch; pobl British Columbia a Chanada, ynghyd ag ymwelwyr o bob rhan o'r byd yn mwynhau y gêms i'r eithaf.
Mae'r llethrau, y feniws Olympaidd a'r dref yn llawn dop a phawb mewn hwyliau da. Mae'r haul yn parhau i wenu ers dros wythnos bellach a mwy o haul i ddod medda nhw.
Ar sail hyn, rhaid imi ddweyd bod y cyfryngau Prydeinig a'r Guardian yn arbennig yn malu awyr ac wedi bwyta gormod o rawnwin sur. Mae'r gemau Olympaidd yn Vancouver yn fyw ac yn iach