Tudalen 1 o 1

Grawnwin chwerw?

PostioPostiwyd: Sad 20 Chw 2010 6:20 pm
gan Lôn Groes
Mae'r cyfryngau ym Mhrydain ac yn enwedig y Guardian wedi bod yn eitha miniog eu tafod ac yn feirniadiol iawn o'r gemau Olympaidd Gaeaf yn Vancouver ac wedi mynd allan o'u ffordd fel petae i bwysleisio'r negyddol.
Ond mae 'na reswm am hyn.
Yn ôl Adrienne Arsenault CBC, sydd wedi ei lleoli yn Llundain, ymddengys nad yw'r 2012 Olympics a gynhelir yn Llundain yn boblogaidd iawn ym Mhrydain ac eisoes mae'r gost yn bedair gwaith mwy nag oedd ar y cychwyn.
Mae dilorni y gemau yn Vancouver yn ffordd gyfleus iawn i daflu dwr oer ar y gemau Olympaidd amhoblogaidd yn Llundain yn 2012.
Fel un sydd yn byw ar lannau'r Tawelfôr ac yn gwylio'r gemau yn gyson, fy argraff i yw bod trigolion Vancouver a'r cylch; pobl British Columbia a Chanada, ynghyd ag ymwelwyr o bob rhan o'r byd yn mwynhau y gêms i'r eithaf.
Mae'r llethrau, y feniws Olympaidd a'r dref yn llawn dop a phawb mewn hwyliau da. Mae'r haul yn parhau i wenu ers dros wythnos bellach a mwy o haul i ddod medda nhw.
Ar sail hyn, rhaid imi ddweyd bod y cyfryngau Prydeinig a'r Guardian yn arbennig yn malu awyr ac wedi bwyta gormod o rawnwin sur. Mae'r gemau Olympaidd yn Vancouver yn fyw ac yn iach :D

Re: Grawnwin chwerw?

PostioPostiwyd: Sad 20 Chw 2010 7:26 pm
gan Hazel
Roeddwn i'n sylwi ar hon y bore 'ma. Yn gynnar yn y bore, mae BBC yn darlledu dros NPR yma. Roedd bron popeth yn eu siarad am y damweiniau.

Does dim ots inni. Cywir?

Roeddwn i'n hoffi hyn: Dywed y darlledwr NPR, ar ôl enillodd Evan Lysaceky fedal aur: "Mae 'na rhwybeth dewinol yn digwydd pan mae Americaniaid yn glanio i'r gogledd o'r ffin." :D

Re: Grawnwin chwerw?

PostioPostiwyd: Sul 21 Chw 2010 9:36 am
gan Josgin
Hazel : Darllenwch eich sylwadau eto. Ydach chi'n siwr eich bod yn meddwl hynny ?

Re: Grawnwin chwerw?

PostioPostiwyd: Sul 21 Chw 2010 4:31 pm
gan Hazel
Oh! Sori. Roedd bron popeth yn eu siarad am y llethrau peryglus a nid oeddwn nhw'n cael eu profi'n iawn. Llawer o gyhuddiadau. Pwy sy ar fai?

Diolch.

Re: Grawnwin chwerw?

PostioPostiwyd: Sul 21 Chw 2010 8:03 pm
gan Geraint
Croen tenau?