Tudalen 1 o 2

Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Gwe 30 Gor 2010 12:47 am
gan Mali
Oes 'na siawns i ni dramorwyr fedru tiwnio i mewn i wylio ychydig o'r steddfod yr wythnos nesaf ? Mi 'roedd gen i linc ar gyfer gwylio S4C yn fyw , ond tydi hwnnw ddim yn gweithio i mi rwan . :(
Diolch.

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Gwe 30 Gor 2010 12:33 pm
gan dafydd
Mali a ddywedodd:Oes 'na siawns i ni dramorwyr fedru tiwnio i mewn i wylio ychydig o'r steddfod yr wythnos nesaf ? Mi 'roedd gen i linc ar gyfer gwylio S4C yn fyw , ond tydi hwnnw ddim yn gweithio i mi rwan . :(

Ydi Clic yn gweithio? Dwi ddim yn gweld unrhyw broblem yn defnyddio hwn o du allan i wledydd Prydain.

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Gwe 30 Gor 2010 3:28 pm
gan Mali
Diolch yn fawr iawn i ti Dafydd am y linc i Clic . :D 'Rwyf wedi edrych ar y wefan yma sawl gwaith o'r blaen , ond doedd 'na ddim byd ar gael i rai tu allan i'r DU. Ond rwan mae'n gweithio !! 8)
Yn anffodus tydi 'Gwylio S4C yn fyw' ddim yn gweithio .... i mi ta beth. Mae'r neges : 'stream not found:uk_live_1' yn ymddangos yn y sgwâr.

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Gwe 30 Gor 2010 6:17 pm
gan Emma Reese
Do'n i ddim yn sylweddoli bod Clic yn gweithio i ni sy tu allan i'r DU eto! Tybed ydy S4C wedi ail-ystyried eu polisi? Mae'n wych beth bynnag! Ces i gip ar rai o'r rhaglenni; problem i mi ydy bod 'na doriadau y lluniau sy'n para am eiliadau. Maen nhw'n rhwystredig braidd ond o leia, dw i'n medru gwilio S4C unwaith eto. Dydy 'Gwylio yn fyw' ddim yn gweithio i mi chwaith.

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Gwe 30 Gor 2010 6:29 pm
gan Hedd Gwynfor
Dwi ddim yn siwr beth yw'r sefyllfa. Mae'n dweud hyn ar wefan S4C:

Alla i ddim gwylio rhaglen arbennig ar y wefan. Pam ddim?

Mae gwaharddiadau hawlfraint byd-eang yn ein gwahardd rhag dangos ein holl gynnwys y tu allan i'r DU. Gobeithiwn allu ymestyn y gwasanaeth hwn yn y dyfodol i ehangu'r ddarpariaeth ar y we.


Chi wedi trio hwn? http://zattoo.com/view#UK_s4c Rhaid cofrestru, ond mae'n rhad ac am ddim o be wela i...

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Gwe 30 Gor 2010 6:35 pm
gan dafydd
Mali a ddywedodd:Yn anffodus tydi 'Gwylio S4C yn fyw' ddim yn gweithio .... i mi ta beth. Mae'r neges : 'stream not found:uk_live_1' yn ymddangos yn y sgwâr.

A reit, dwi newydd drio hwn o fy nghysylltiad americanaidd a gweld yr un broblem. Mae yna rhai gwefannau sy'n ail-ddarlledu S4C ond eto dyw'r rhain ddim yn dangos cynnwys i gysylltiadau tu allan i'r DU. (Zattoo, TVCatchup ayyb)

Dwi ddim yn meddwl fod unrhywbeth ar Clic yn gweithio tu allan i'r DU chwaith (heblaw CF99).

Dwi'n deall yn union pam nad yw S4C/BBC yn ffrydio fideo tu allan i'r DU (hawliau yn bennaf) ond mae'n anffodus a dweud y lleia ar adeg lle mae angen dangos fod gan y sianel gynulleidfa eang, yn enwedig yn y diaspora.

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Sad 31 Gor 2010 4:09 pm
gan Mali
Emma Reese a ddywedodd:Do'n i ddim yn sylweddoli bod Clic yn gweithio i ni sy tu allan i'r DU eto! Tybed ydy S4C wedi ail-ystyried eu polisi? Mae'n wych beth bynnag! Ces i gip ar rai o'r rhaglenni; problem i mi ydy bod 'na doriadau y lluniau sy'n para am eiliadau. Maen nhw'n rhwystredig braidd ond o leia, dw i'n medru gwilio S4C unwaith eto. Dydy 'Gwylio yn fyw' ddim yn gweithio i mi chwaith.


Helo ! Diolch i ti am ymateb.
Wyt ti'n dal yn medru gweld y rhaglenni ? Newydd fod i mewn i Clic rwan , a dechrau gwylio Cyngerdd Agoriadol yr Eisteddfod [ dal i fyny ] yn cynnwys Only Men Aloud ac Only Boys Aloud , ac wedi medru gweld dechrau'r rhaglen . Ond pan wnês i fynd yn ôl ato ar ôl ei ddiffodd am ychydig , ni ddaeth i fyny ! :? A rwan , fedrai ddim cael ddim byd arall chwaith .
Dafydd , Hedd ....tybed beth fasa'n achosi hynny? :?

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Sad 31 Gor 2010 5:08 pm
gan Emma Reese
Dw i'n gwylio Only Men Aloud rŵan (tua 20 munud o'r dechrau); mae'r toriadau'n dal i achosi rhwystredigaeth, ond dw i'n medru gweld y rhaglen ar hyn o bryd.

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Sad 31 Gor 2010 6:02 pm
gan Emma Reese
O na! Digwyddodd yr un peth! Dydy Clic ddim yn gweithio bellach ar ôl i mi ei gadw'n 'hold' am sbel. Ella mai dim ond un siawns sy gynnon ni!

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Sad 31 Gor 2010 10:04 pm
gan Mali
Emma Reese a ddywedodd:O na! Digwyddodd yr un peth! Dydy Clic ddim yn gweithio bellach ar ôl i mi ei gadw'n 'hold' am sbel. Ella mai dim ond un siawns sy gynnon ni!


Dim ond un siawns yn wir ! Dyna biti . :(
Ond sgwn i pam ddaru o weithio i ni unwaith , os tydio ddim i fod i weithio o gwbwl . :?