Hmm, mae'n od os yw'n gweithio ar rhai adegau yn unig. Fasen i'n disgwyl fod nhw'n gwrthod unrhyw gyfeiriadau IP tu allan i'r DU, ar bob adeg. Drwy hap a damwain fase fe'n gweithio i bawb arall, os o gwbl.
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Oes rhyw ffordd o wneud i wefan S4C feddwl eich bod yn y DU hyd yn oed pan tu fas Dafydd? Fi' siwr bod ambell i dric da ti!
Hmmm rhyfedd i ti sôn am hynny Hedd. Newydd 'chwarae tric' rwan , a hei ...mi ddaeth y cyngerdd agoriadol yn ôl. Wedi gwylio awr ohono hyd yma ac Only Men Aloud yn wych ! Edrych ymlaen i weld Only Boys Aloud rwan ar ôl swper ....os y daw ymlaen eto yn de .