Tudalen 2 o 2

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Sad 31 Gor 2010 11:21 pm
gan dafydd
Hmm, mae'n od os yw'n gweithio ar rhai adegau yn unig. Fasen i'n disgwyl fod nhw'n gwrthod unrhyw gyfeiriadau IP tu allan i'r DU, ar bob adeg. Drwy hap a damwain fase fe'n gweithio i bawb arall, os o gwbl.

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Sul 01 Awst 2010 12:03 am
gan Hedd Gwynfor
Oes rhyw ffordd o wneud i wefan S4C feddwl eich bod yn y DU hyd yn oed pan tu fas Dafydd? Fi' siwr bod ambell i dric da ti! :winc:

Re: Gwylio'r Eisteddfod ar y we

PostioPostiwyd: Sul 01 Awst 2010 2:11 am
gan Mali
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Oes rhyw ffordd o wneud i wefan S4C feddwl eich bod yn y DU hyd yn oed pan tu fas Dafydd? Fi' siwr bod ambell i dric da ti! :winc:


Hmmm rhyfedd i ti sôn am hynny Hedd. :winc:
Newydd 'chwarae tric' rwan , a hei ...mi ddaeth y cyngerdd agoriadol yn ôl. :D Wedi gwylio awr ohono hyd yma ac Only Men Aloud yn wych ! Edrych ymlaen i weld Only Boys Aloud rwan ar ôl swper ....os y daw ymlaen eto yn de . :)