Llongyfarchiadau ie. Er, pam oedd yn rhaid cynhyrchu adran arbennig i'r Gymraeg? Ydy blogiau trwy'r Gymraeg yn israddol i'w cymharu â'r rhai Saesneg ac o ganlyniad mae angen categori ar wahan neu byddai'r Taffia yn taflu wobli os nac oedd un blog Cymraeg yna. Ydy testunnau blogiau Cymraeg mor debyg mae'n rhaid eu gosod i gategori arbennig?
Gofyn cwestiwn, nid beirniadu. Pan welaf y pethe 'ma, mae'n nhw'n fy ngwylltio. Er bod y blogiau a restrwyd o safon uchel, mae'r categori ei hun yn awgrymu 'token gesture'.
Os wyt ti'n trio dweud fy mod i'n bychanu'n enillwyr - stim byd yn bellach o'r gwirionedd. Gwneud sylw oeddwn i, bod pethau Cymraeg yn cael rhyw gategori arbennig iddyn nhw, lle dylen ni, yn yr oes hon, gael cystadlu yn y 'mainstream'. Os ydy'r Gymraeg pob amser yn cael ei ymylu rhag cystadlu'n deg, a fydd gennym yr 'exposure' teilwng?
Er mwyn clirio f'enw - llongyfarchiadau wir i'r enillwyr. Blogiau o safon - gan gynnwys Adenydd Celtaidd.