Be ma hwnna'n meddwl?
Os wyt ti'n trio dweud fy mod i'n bychanu'n enillwyr - stim byd yn bellach o'r gwirionedd. Gwneud sylw oeddwn i, bod pethau Cymraeg yn cael rhyw gategori arbennig iddyn nhw, lle dylen ni, yn yr oes hon, gael cystadlu yn y 'mainstream'. Os ydy'r Gymraeg pob amser yn cael ei ymylu rhag cystadlu'n deg, a fydd gennym yr 'exposure' teilwng?
Er mwyn clirio f'enw - llongyfarchiadau wir i'r enillwyr. Blogiau o safon - gan gynnwys Adenydd Celtaidd.