Tudalen 1 o 1

Blog Iaith Gorau

PostioPostiwyd: Llun 27 Medi 2010 3:52 pm
gan Hazel
Mae Peggi wedi gwneud y rhystr fer ar gyfer Blog Iaith Gorau. :-)
http://walesblogawards.co.uk:80/2010/09/the-shortlist/

Llongyfarchiadau, Peggi! "Tolja" Iechyd da!

Re: Blog Iaith Gorau

PostioPostiwyd: Llun 27 Medi 2010 6:03 pm
gan Duw
Llongyfarchiadau ie.
Er, pam oedd yn rhaid cynhyrchu adran arbennig i'r Gymraeg?
Ydy blogiau trwy'r Gymraeg yn israddol i'w cymharu â'r rhai Saesneg ac o ganlyniad mae angen categori ar wahan neu byddai'r Taffia yn taflu wobli os nac oedd un blog Cymraeg yna.
Ydy testunnau blogiau Cymraeg mor debyg mae'n rhaid eu gosod i gategori arbennig?

Gofyn cwestiwn, nid beirniadu. Pan welaf y pethe 'ma, mae'n nhw'n fy ngwylltio. Er bod y blogiau a restrwyd o safon uchel, mae'r categori ei hun yn awgrymu 'token gesture'.

Re: Blog Iaith Gorau

PostioPostiwyd: Maw 28 Medi 2010 7:24 am
gan Peggi
Diolch, Duw - rwyt ti'n gwybod y ffordd i law ar barêd rhywun yn sicr, on'd wyt ti? :(

Re: Blog Iaith Gorau

PostioPostiwyd: Maw 28 Medi 2010 9:50 pm
gan Duw
Be ma hwnna'n meddwl? :?:

Os wyt ti'n trio dweud fy mod i'n bychanu'n enillwyr - stim byd yn bellach o'r gwirionedd. Gwneud sylw oeddwn i, bod pethau Cymraeg yn cael rhyw gategori arbennig iddyn nhw, lle dylen ni, yn yr oes hon, gael cystadlu yn y 'mainstream'. Os ydy'r Gymraeg pob amser yn cael ei ymylu rhag cystadlu'n deg, a fydd gennym yr 'exposure' teilwng?

Er mwyn clirio f'enw - llongyfarchiadau wir i'r enillwyr. Blogiau o safon - gan gynnwys Adenydd Celtaidd.