Tudalen 1 o 1

Dinas Pechod

PostioPostiwyd: Sad 09 Hyd 2010 7:13 pm
gan Lôn Groes
Llai nac wythnos yn ôl fe dreuliais dridiau yn 'Ninas Pechod'.
Wel am le hyfryd; lle braf; lle llawn miri ac asbri.
Dyma'r ail waith imi ymweld a Las Vegas yn Nevada.
Ein prif fwriad y tro hwn oedd gweld 'Cher' yn cynnal cyngerdd yn Caesar's Palace.
Chawsom ni ddim ein siomi.
Mae hi'n 62 oed bellach ac mae hi mor fywiog a thalentog ag erioed.
Fe roedd 'na si bod' Only Men Aloud' yn bwriadu mynd i Las Vegas. Oes na wirionedd yn hyn dwedwch?
Peth arall a'm trawodd yn Las Vegas oedd yr adeiladau mawreddog a'r adloniant sydd i'w gael am ddim yno.
Dyma enghraifft ichwi o flaen y Bellagio Fountain ar y Strip:

http://www.youtube.com/watch?v=cP0K6H2QK7A

:D

Re: Dinas Pechod

PostioPostiwyd: Sad 09 Hyd 2010 7:45 pm
gan Kez
Lôn Groes a ddywedodd:Ein prif fwriad y tro hwn oedd gweld 'Cher' yn cynnal cyngerdd yn Caesar's Palace.
Chawsom ni ddim ein siomi.
Mae hi'n 62 oed bellach ac mae hi mor fywiog a thalentog ag erioed.
http://www.youtube.com/watch?v=cP0K6H2QK7A

:D


Ffycin el - own i'n meddwl bo Cher wedi hen farw! Odd Frank Sinatra yno hefyd :? :?:

Re: Dinas Pechod

PostioPostiwyd: Sul 10 Hyd 2010 10:56 pm
gan Lôn Groes
Kez a ddywedodd:
Lôn Groes a ddywedodd:Ein prif fwriad y tro hwn oedd gweld 'Cher' yn cynnal cyngerdd yn Caesar's Palace.
Chawsom ni ddim ein siomi.
Mae hi'n 62 oed bellach ac mae hi mor fywiog a thalentog ag erioed.
http://www.youtube.com/watch?v=cP0K6H2QK7A

:D


Ffycin el - own i'n meddwl bo Cher wedi hen farw! Odd Frank Sinatra yno hefyd :? :?:


Wel dyna ti.
Does dim byd gwaeth nac anwybodaeth ac mae o'n dangos hefyd gan amlygu ei hun fel baw buwch ar bâr o esgidiau newydd :)

Re: Dinas Pechod

PostioPostiwyd: Llun 11 Hyd 2010 11:14 am
gan Hazel
Lôn Groes a ddywedodd:
Dyma enghraifft ichwi o flaen y Bellagio Fountain ar y Strip:

http://www.youtube.com/watch?v=cP0K6H2QK7A:D


Mae 'na gerddoriaeth wrth dŵr synudol. :)

Re: Dinas Pechod

PostioPostiwyd: Sad 23 Hyd 2010 5:03 pm
gan Lôn Groes
Hazel a ddywedodd:
Lôn Groes a ddywedodd:
Dyma enghraifft ichwi o flaen y Bellagio Fountain ar y Strip:

http://www.youtube.com/watch?v=cP0K6H2QK7A:D


Mae 'na gerddoriaeth wrth dŵr synudol. :)


Ond beth am Siocled symudol?

Tu mewn i'r Bellagio mae 'na raeadr o siocled.
Mae 'na dri math o siocled mewn gwirionedd (tywyll, brown a gwyn) ac mae pob un yn disgyn yn ei dro o uchder o 27 troedfedd.
Mae'r cyfanswm yn 2,100 pwys.
Mae Rhaeadr Siocled Bellagio yn y Guinness Book of Records medda nhw.
Bum yn stelcian o flaen y rhaeadr am tua hanner awr gan lyfu fy ngwefla yn hiraethus:

http://www.chocolatefalls-scotland.co.u ... untain.htm

:D

Re: Dinas Pechod

PostioPostiwyd: Sad 23 Hyd 2010 5:24 pm
gan Hazel
Oh! Pobl bach y Bala!! A mor fuan ar ôl fy nghinio! :ing: