Tudalen 1 o 3

Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Llun 25 Hyd 2010 1:35 am
gan Anhysbyswr
Hoffech wylio rhaglenni teledu o Gymru dramor?

Os ydych yn byw dramor mae'n debyg eich bod yn dibynnu ar wefan UKNova.com neu TheBox.bz i gael gafael ar raglenni o Brydain, ond prin iawn ydy'r cynnwys Cymraeg ar gael.

Mae wefan newydd yn arbennig ar gyfer rhannu rhaglenni Cymraeg a'n gilydd wedi ei lansio, felly ymunwch a Golyg.com a dechrau rhannu. Mae nifer o raglenni eisoes yno, gan gynnwys cyfres cyfar Pen Talar*.

*Mae son bydd y gyfres yn cael ei ryddhau ar DVD, felly, gan mae dim ond rhaglenni sydd ddim ar gael i'w prynu sydd ar gael ar y wefan, dewch i lawrlwytho'ch gopi o'r gyfres tra mae'n bosib.

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Llun 25 Hyd 2010 2:32 am
gan Mali
Hmm...diddorol ! :D Dwi 'di postio sawl gwaith am y posibilrwydd o gael S4C drwy'r we , ac wedi profi hapusrwydd mawr wrth fedru gwylio nifer o raglenni Cymraeg , dim ond i gael fy siomi ychydig o wythnosau wedyn pan fyddant ddim ar gael . Esgusoda fy anwybodaeth , ond dwi rioed wedi dod ar draws gwefan UKNova.com na TheBox.bz/ :wps: Ai gwefanau newydd ydynt ? Os felly , hoffwn gael mwy o wybodaeth ogydd.
Gyda llaw, croeso i maes-e . :)

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Llun 25 Hyd 2010 4:01 am
gan Emma Reese
Mi wna i eilio post Mali! Dw i'n siŵr bod 'na nifer mawr o Gymry a dysgwyr tu allan i'r DU (sy ddim yn aelodau o faes-e) eisiau gwylio rhaglenni Cymraeg. Dyma restr fy hoff raglenni S4C:

Bro
Byw yn yr Ardd
Dudley
Cefn Gwlad
O Flaen Dy Lygaid
Pethe
Wedi 7
y Byd ar Bedwar
rhaglenni hanes e.e. Tywysogion
rhaglenni Eisteddfod

Ti sy'n medru gwneud rhaglenni Cymraeg ar gael i ni?

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Llun 25 Hyd 2010 4:14 am
gan Rhobert Ap Wmffre
Byddwn hefyd yn mwynhau gwylio dewis ehangach o raglenni S4C ar y we. Fe ges i fy siomi pan benderfynodd y sianel i atal y ffrwd "gwylio'n fyw" yn fyd eang blwyddyn neu ddwy'n ôl. Ond, dwi ddim yn siwr os ydy'r safleodd uchod (UKnova a thebox.bz) yn gyfreithlon.

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Llun 25 Hyd 2010 6:27 am
gan Anhysbyswr
Mae UKNova ar lein ers dros chwe blynedd. Er mwyn gadw'n gyfreithlon, does dim ond posib rhannu rhaglenni sydd wedi eu darlledu ar y sianeli sy'n rhad ac am ddim. Yn ogystal, ni chaniateir rhannu rhaglenni sydd ar gael i'w brynu, megis ar DVD, fideo, neu unrhyw ffurf arall. Dydy'r wefan ei hun dim yn rhannu unrhyw beth.

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Llun 25 Hyd 2010 8:09 pm
gan Mali
Diolch am yr holl fanylion uchod Anhysbyswr. Yn ôl dy ddisgrifiad , tydio ddim cweit beth oeddwn yn 'i ddisgwyl, ac ella yn ormod o waith ac ychydig yn rhy cymleth i rywun fel fi gwaetha'r modd. Ac i ddweud y gwir , buasai'n lai trafferthus i mi ofyn i berthynas/ffrind sy'n byw yng Nghymru i recordio rhaglen o'm dewis ar S4C , ac i yrru'r disg i mi . Neu i wneud casgliad ohonynt ar gyfer fy mhenblwydd neu fel anrheg 'dolig . :winc:
Buasai'n ddiddorol hefyd cael barn rai o techis maes-e ynglyn a hyn .
Yn y cyfamser , diolch i ti am ddangos diddordeb ac am gynnig help ! :D

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Llun 25 Hyd 2010 11:34 pm
gan Anhysbyswr
Yn ôl dy ddisgrifiad, tydio ddim cweit beth oeddwn yn 'i ddisgwyl, ac ella yn ormod o waith ac ychydig yn rhy cymhleth i rywun fel fi


Beth am y disgrifiad yma:
1) Ymunwch a Golyg.com
2) Lawrlwythwch a gosodwch uTorrent (yn rhwydd iawn ac ar gael yn Gymraeg ond mae cyfarwyddiadau ar Golyg)
3) Lawrlwythwch feil torrent rhaglen o'r wefan a gadewch i uTorrent gwneud y gweddill
4) Ymlaciwch a gwyliwch

Unwaith byddwch wedi dechrau, mae'n hawdd iawn i osod ffrydiau RSS i lawrlwytho'ch hoff raglenni yn awtomatig pan fyddan ar gael.

Beth am drio cyn barnu pa mor anodd ydy o?

buasai'n lai trafferthus i mi ofyn i berthynas/ffrind sy'n byw yng Nghymru i recordio rhaglen o'm dewis ar S4C , ac i yrru'r disg i mi


Yn llai trafferthus i ti, buasai. Byddai'n safio ambell glic ar fotwm y llygoden arnat ti. Dy berthynas/ffrind, ar y llaw arall... :winc: Drwy BitTorrent, mae'r cipwyr yn gwneud y gwaith recordio a gwneud y rhaglenni ar gael i unrhyw un sydd eisiau eu gweld. Mae'r un system a dy un di, ond mewn modd gynt a haws gan ddefnyddio technoleg gyfoesol.

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Maw 26 Hyd 2010 12:43 am
gan Emma Reese
Faint o raglenni Cymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd?

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Maw 26 Hyd 2010 9:46 am
gan Hedd Gwynfor
Mae trafodaeth wedi bod o'r blaen dwi'n credu. Dylai fod modd gwylio S4C yn yr UDA trwy wefan Zattoo, dim ond angen cofrestru: http://zattoo.com/view/UK_s4c

Hefyd rhai wedi cael lwc yn defnyddio http://www.livestation.com/account/streams/518715-s4c ond dwi heb lwyddo...

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Sad 30 Hyd 2010 3:56 pm
gan Lôn Groes
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae trafodaeth wedi bod o'r blaen dwi'n credu. Dylai fod modd gwylio S4C yn yr UDA trwy wefan Zattoo, dim ond angen cofrestru: http://zattoo.com/view/UK_s4c

Hefyd rhai wedi cael lwc yn defnyddio http://www.livestation.com/account/streams/518715-s4c ond dwi heb lwyddo...


Ac oes modd i Gymry Canada wylio S4C os gwn i?
Hynny ydi, os bydd S4C yn dal ar dir y byw :(