Teledu Cymraeg byd-eang

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydych chi'n gwylio teledu adref dramor?

Daeth y pôl i ben ar Mer 24 Tach 2010 1:35 am

Dwi'n byw dramor ac yn medru gwylio rhaglenni o'r DU, ond hoffwn weld mwy o raglenni Cymraeg.
5
63%
Dwi'n byw dramor ac yn medru gwylio rhaglenni o'r DU, ond does dim diddordeb gennyf mewn rhaglenni S4C.
1
13%
Dwi'n byw dramor a hoffwn wylio rhaglenni o adref, ond dydw i ddim yn gwybod sut.
1
13%
Dwi'n byw dramor ac yn ddigon hapus heb wylio teledu o adref.
0
Dim pleidleisiau
Arall (rhowch manylion)
1
13%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 8

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

Postiogan Anhysbyswr » Iau 18 Tach 2010 8:17 pm

Mali,

Dwi'n falch o glywed dy fod wedi gael llwyddiant. Mae Only Men Aloud eisoes wedi ei rhestru yn yr amserlen o rhaglenni bydd ar gael.

Yn ogystal a chyflymder dy gysylltiad i'r rhyngrwyd, mae'r cyflymder lawrlwytho yn dibynnu ar faint o bobl sy'n rhannu'r ffeil. Ar hyn o'r bryd, dim ond y fi sy'n rhannu'r rhan fwyaf. Pan fydd mwy o ddefnyddwyr yn rhannu bydd y cyflymderau yn gwell, felly mae'n bwysig hysbysu'r wefan i eraill bydd a diddordeb.
Anhysbyswr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Llun 25 Hyd 2010 12:37 am

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

Postiogan Mali » Maw 23 Tach 2010 5:41 pm

Diolch Anhysbyswr ! :D
Wedi lawrlwytho tua deg o raglenni gwahanol erbyn hyn , ac wedi mwynhau be da ni wedi weld hyn yma . :D Mae gen i gebl sydd yn ein galluogi ni i edrych ar y rhaglenni ar ein teledu ...sydd yn well fyth ! Ond dim ond y llun sydd yn gweithio ar hyn o bryd , felly yn dibynnu ar 'volume' y gliniadur . Am fynd i'm hoff siop heddiw i edrych am gebl arall i wneud y job yn iawn .
Yn gweld fod 'na ymateb da i Golyg wedi bod hyd yma i http://www.golyg.com/. Da iawn dalied ati !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

Postiogan Anhysbyswr » Maw 07 Rhag 2010 6:52 am

Da clywed dy fod yn cael llwyddiant ac yn mwynhau'r rhaglenni, Mali.

Mae'r wefan eisoes a dros deugain o ddefnyddwyr ond mae angen mwy er mwyn cyflymu'r lawrlwytho. Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o'r rhaglenni ar gael gyda dewis o isdeitlau Cymraeg a Saesneg ac mae rhai rhaglenni Saesneg sy'n ymwneud a Chymru ar y wefan hefyd.

Os oes unrhyw un yma yn nabod unrhyw un dramor a diddordeb mewn gwylio teledu Cymraeg, soniwch iddynt am y wefan, os gwelwch yn dda.
Anhysbyswr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Llun 25 Hyd 2010 12:37 am

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

Postiogan Mali » Maw 07 Rhag 2010 5:52 pm

Wyt ti'n gyfarwydd a safle we Americymru? Tydwi ddim yn aelod, ond dwi'n siwr fasa 'na ddipyn o ddiddordeb yno! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

Postiogan Mali » Gwe 17 Rhag 2010 5:12 pm

Meddwl y dyliwn i dynu eich sylw at fwy o raglenni sydd ar gael ar safle http://www.golyg.com. Yn gweld fod na nifer fawr wedi cael eu ychwanegu erbyn heddiw , a da iawn yw eu cael ! :D Dwi' wrthi rwan yn lawrlwytho :

Arwyr [2008]
Dirgelwch yr Ogof [2008]
Con Passionate [ 2007] a
Teithiau Tramor Iolo [ 2008]

Llawer o ddiolch ! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

Postiogan Mali » Gwe 18 Chw 2011 4:56 pm

Dau fis yn ddiweddarach , da ni'n dal i fwynhau y rhaglenni teledu sydd ar gael ar Golyg.com :D
Wedi mwynhau'r gyfres Welsh Greats yn ddiweddar . Y Nosweithiau Llawen yn hwyliog iawn ,ac yn rhoi cyfle i ni weld artistiaid sydd yn gwbwl newydd i ni .
Yn gweld fod 'na ddilynwyr cyson o Bobl y Cwm hefyd !
Joio !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

Postiogan Cymrodor » Llun 28 Chw 2011 3:56 pm

Dwi'n defnyddio Golyg hefyd. Gret ydy cael gweld rhaglenni Cymraeg dramor. Mae 'na gymaint nag ydw i'n cael amser i'w gwylio i gyd ond rwan yn trosglwyddo rhai i'm ffon fel fy mod yn gallu eu gwylio ar y bws i'r gwaith. Braf iawn ar ol blynyddoedd i medru rhoi'r gorau i Pobol y PenDwyrain a gweld Pobol y Cwm!

Fel safle torrentau, mae cyflymderau lawrlwytho yn dibynnu ar y nifer sy'n rhannu felly os ydych yn nabod rhywun dramor a byddai yn hoffi gwylio teledu o Gymru, gadewch iddyn nhw wybod am y wefan, hyd yn oed os nad ydynt yn rhygl yn y Gymraeg. Mae nifer o raglenni yn Saesneg ac mae'r rhan fwyaf o'r rhai Cymraeg gyda isdeitlau dewisiadol.

Dwi'n edrych ymlaen at y rai o raglenni'r wythnos yma yn enwedig.

www.golyg.com
Cymrodor
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Sad 10 Hyd 2009 12:07 am

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

Postiogan Mali » Sad 24 Medi 2011 5:28 pm

Gair i ddweud fod 'na jyst iawn i flwyddyn wedi pasio ers i safle we http://www.golyg.com gael ei sefydlu. Ac mae'n mynd o nerth i nerth , a da gweld hynny!
Wrth fy modd efo'r dewis eang o raglenni teledu , ac yn gwerthfawrogi'n fawr iawn y gwaith sydd yn mynd ymlaen i gynnig arlwy campus i Gymry drwy'r byd.
:D :D
Llawer o ddiolch !
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Nôl

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron