Tudalen 2 o 3

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Llun 08 Tach 2010 2:39 pm
gan Anhysbyswr
Er bod gwefannau torrentau eraill, mae'n glir mae'r unig ffordd i fedru rhannu rhaglenni Cymraeg heb gael eu plismona gan y ddi-gymraeg ydy wrth greu gwefan ein hunain, felly dyna yn union dwi wedi gwneud.

Mae 'na dipyn o waith tacluso a nifer o gynnwys yn dal i'w gyfieithu, ond mae'n bosib ymuno a rhannu rhaglenni yno yn barod. Mae Miss Cymru a Miss World, Noson Lawen a Cartrefi Cefn Gwlad Cymru y penwythnos yno i chi lawrlwytho a bydd Pobol y Cwm, Cefn Gwlad ac Y Byd ar Bedwar yn cael eu recordio heno ac yn ymddangos yno yfory. Os oes gofyn amdanyn, gallaf ail rannu'r 23 o raglenni sydd gennyf o'r pythefnos diwethaf.

Dewch felly, i http://golyg.com

(Meddyliais am yr enw a phrynais y parth rhai blynyddoedd yn ôl am bwrpas arall ond cafodd erioed ei ddefnyddio.)

Nodyn am gyfreitholdeb
Fel dwi'n deall y rheswm pam na allai S4C darlledu rhaglenni y tu allan i'r DU ydy gan fod yn un o'r termau ac amodau gyda chorff sy'n cynrychioli artistiaid sgrin Brydeinig. Dyma sut bod rhaglenni ffeithiol fel CF99 a Pawb a'i Farn ar gael ar Clic, ond dim llawer yn fwy. Does gennyf i ddim cytundeb gydag actorion Pobol y Cwm nag unrhyw gorff sy'n ei gynrychioli a dwi'n ddigon bodlon recordio rhaglenni gyda chyfrifiadur mewn cartref gyda thrwydded teledu yng Nghymru er mwyn eu rhannu gydag unrhyw ffrindiau sydd eisiau eu gweld cyn belled nad ydy'r rhaglenni ar gael i'w prynu. Buaswn byth yn meddwl twyllo artistiaid na chynhyrchwyr o ennill eu bywoliaeth. I ddweud y gwir, mae'n union yr un fath a bod ffrind neu aelod o'r teulu yn recordio oddi ar y teledu ac yn anfon rhaglen ar fideo neu gryno ddisg i rywun, ond bod defnyddio meddalwedd BitTorrent i drosglwyddo'r rhaglenni yn haws, yn gynt, ac yn rhad ac am ddim.

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Maw 09 Tach 2010 11:52 pm
gan garynysmon
Diolch am dy waith, gret o syniad!

Gawn ni rannu hen raglenni Cymraeg?

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Mer 10 Tach 2010 5:33 am
gan Anhysbyswr
Er bod S4C yn ail-ddarlledu nifer o hen raglenni, dydw i ddim yn bwriadu eu rhannu ar hyn o'r bryd.

Cofiwch bod recordio, golygu, amgodio, trosglwyddo, creu torrent, a uwchlwytho'r ffeiliau 'ma yn cymryd amser, heb son am y trafferth o gorfod wedi sefydlu wefan fy hun a rwan yn gorfod ei redeg hefyd. (Buasai cymorth gyda un neu'r llall yn cael ei werthfawrogi yn fawr iawn.)

Fedra'i ddim ond rhannu beth sydd gan fi ar ffeil ar fy nghyfrifiadur. Dwi'n recordio C'Mon Midffild er mwyn ei wylio fy hun, ond yn credu ei fod ar gael i'w brynnu felly byddaf ddim yn ei rhannu. Mae cyfresi Caerdydd hefyd gan fi, ond wedi eu lawrlwytho drwy wefan arall, felly wn i ddim os oes bosib neu os ydy'n teg i mi ei ail-rannu ar wefan arall.

Wedi dechrau yn rhy hwyr i gael cyfres cyfar Pen Talar, gobeithiaf bydd yn cael ei ddarlledu eto cyn gael ei ryddhau ar DVD (os o gwbl) er mwyn i mi ei recordio a'i rhannu.

Os oes unrhyw beth yn arbennig rydych am gweld, gadewch i fi wybod a mi welaf os ydy'n bosib ei rannu.

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Gwe 12 Tach 2010 11:56 pm
gan dafydd
Syniad da iawn! Mae gen i dipyn o bethau i'w rhannu. Dwi'n cael ychydig o drafferth cofrestru. Dwi wedi cofrestru gyda enw 'dafydd', a ges i gadarnhad yn fy ebost, ond doedd y cyfrinair ddim yn gweithio. Wnes i wedyn ofyn am gyfrinair newydd ond mae'r ebost hynny yn wag (h.y. dim byd o gwbl ynddo).

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Sad 13 Tach 2010 3:30 am
gan Mali
Helo eto...braidd yn hwyr yn ymateb sori. Wedi bod heb fy ngliniadur am sbelan tra'n cael ei drwsio. Newydd gael golwg ar dy safle newydd Anhysbyswr, ac wedi cofrestru arno. Yn gweld fod 'na amrywiaeth o raglenni wedi eu gosod arno yn barod , a diolch i ti am dy waith . :D Felly , mae'n debyg mai'r cam nesaf fydd gosod 'Codec Pack' ar y gliniadur?
Dwi'n siwr fod 'na sawl rhaglen y baswn yn hoffi ei weld , ond methu meddwl amdan y teitlau i gyd eto wrth gwrs. Er hynny , mae 'na un gyfres weddol ddiweddar sydd yn dod i gôf, sef y cyfres 'Cofio'. Dwi ddim yn siwr os ydi S4C yn ail ddarlledu hwn eto , ond mi faswn wrth fy modd cael gweld ambell i raglen o'r gyfres yma, yn enwedig un Caryl Parry Jones.
Edrychaf ymlaen at mwy o ypdêts ..... :D

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Sad 13 Tach 2010 3:33 am
gan Anhysbyswr
Heb gyfieithu'r e-bost hwnnw i'r Gymraeg, felly doedd dim cynnwys! Mae'n gweithio rŵan, dwi'n credu.

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Sad 13 Tach 2010 3:34 am
gan Mali
garynysmon a ddywedodd:Diolch am dy waith, gret o syniad!

Gawn ni rannu hen raglenni Cymraeg?


Difyr 8) ....oes gen ti raglenni arbennig mewn golwg ?

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 5:18 pm
gan C++
Wedi dechrau yn rhy hwyr i gael cyfres cyfar Pen Talar, gobeithiaf bydd yn cael ei ddarlledu eto cyn gael ei ryddhau ar DVD (os o gwbl) er mwyn i mi ei recordio a'i rhannu.


Mae pob pennod o Pen Talar wedi dod yn ôl i S4C Clic.

http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?programme_id=350295777

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Sul 14 Tach 2010 11:57 pm
gan Anhysbyswr
Mae pob pennod o Pen Talar wedi dod yn ôl i S4C Clic.

Ar gael yn y D.U. yn unig.

Byddwch yn sylwi bod wefan Golyg wedi newid. Roedd gormod o broblemau efo'r llall ac felly dwi wedi defnyddio sgript gyfangwbl wahanol. Bu rhaid trosglwyddo manylion defnyddwyr o'r hen gronfa ddata i'r newydd a mae'n ymddangos bod defnyddwyr wedi medru mewngofnodi i'r wefan newydd. Os ydych a unrhyw broblem, gadewch i mi wybod. Rwan bod y wefan ar gael mewn amryw o ieithoedd, byddaf yn ei hysbysebu ar wefannau eraill a fe ddylai dod i byw dros y dyddiau nesaf.

Byddaf yn dal i gwneud newidiadau o ran steil a golwg y wefan i'w dacluso a symlaeddio a gwerthfawrogaf eich sylwadau.

Re: Teledu Cymraeg byd-eang

PostioPostiwyd: Iau 18 Tach 2010 5:17 pm
gan Mali
Helo Anhysbyswr,
Wedi llwyddo i lawrlwytho u torrent i'r gliniadur , ac wedi dewis lawrlwytho'r rhaglen am Hedd Wyn yn y gyfres Gwlad Beirdd. Mi gymrodd o tua hanner awr i mi lawrlwytho'r rhaglen , wedyn ei wylio ar Real Audio ......Campus ! Da iawn yn wir , a diolch i ti unwaith eto am wneud hyn yn bosibl i ni'r tramorwyr . :D
Ydi hi'n rhy hwyr i mi ofyn am raglen Only Men Aloud sydd ymlaen heno ? Wedi gwneud cais ar dy wefan hefyd. :D