Y bore 'ma fe ddyrchefais fy llygaid i'r mynyddoedd unwaith eto i ddarganfod bod cnwd o eira gwyn wedi disgyn ar fynyddoedd Ynys Fancwfyr.
Dyma'r ail waith i hyn ddigwydd o fewn y pythefnos diwethaf 'ma ac mae hyn yn fy argyhoeddi bod y Gaeaf ar y trothwy.
Mae'r barrug wedi amlygu ei hun hefyd a dail y coed yn brysur ddisgyn i'r llawr.
Ddoe gwelais fintai o'r Trumpeter Swans yn glanio ar y caeau gerllaw wedi eu siwrna faith o Alaska.
Yma y bydda nhw 'rwan tan ddiwedd mis Mawrth cyn i alwad y Gwanwyn eu cyrchu adref.
Serch troi tudalen arall ar y Caldendr, prysurdeb Hallowe'en a throi'r cloc un awr yn ôl gan ymateb yn ufudd i'r alwad yn y papur newydd i 'Fall Back' ; mae arwyddion byd natur yn parhau i greu argraff ddofn arnaf ac yn fy argyhoeddi yn uchel a chlir bod bys y cloc wedi cyrraedd ei amser penodol a'i bod hi'n amser i roi gwres y ty^ i fyny a gwisgo fy nghôt fawr.
Mae'r Gaeaf fan hyn ar drothwy drws fy nhy^.
Sut mae pethau acw?
