Tudalen 1 o 1

'Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd.....'

PostioPostiwyd: Mer 10 Tach 2010 7:10 pm
gan Lôn Groes
Bore Sul diwethaf cawsom siawns i ddarllen Salm 121 yn ystod yr Offeren yn yr Eglwys.
Y bore 'ma fe ddyrchefais fy llygaid i'r mynyddoedd unwaith eto i ddarganfod bod cnwd o eira gwyn wedi disgyn ar fynyddoedd Ynys Fancwfyr.
Dyma'r ail waith i hyn ddigwydd o fewn y pythefnos diwethaf 'ma ac mae hyn yn fy argyhoeddi bod y Gaeaf ar y trothwy.
Mae'r barrug wedi amlygu ei hun hefyd a dail y coed yn brysur ddisgyn i'r llawr.
Ddoe gwelais fintai o'r Trumpeter Swans yn glanio ar y caeau gerllaw wedi eu siwrna faith o Alaska.
Yma y bydda nhw 'rwan tan ddiwedd mis Mawrth cyn i alwad y Gwanwyn eu cyrchu adref.
Serch troi tudalen arall ar y Caldendr, prysurdeb Hallowe'en a throi'r cloc un awr yn ôl gan ymateb yn ufudd i'r alwad yn y papur newydd i 'Fall Back' ; mae arwyddion byd natur yn parhau i greu argraff ddofn arnaf ac yn fy argyhoeddi yn uchel a chlir bod bys y cloc wedi cyrraedd ei amser penodol a'i bod hi'n amser i roi gwres y ty^ i fyny a gwisgo fy nghôt fawr.
Mae'r Gaeaf fan hyn ar drothwy drws fy nhy^.
Sut mae pethau acw?

:?

Re: 'Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd.....'

PostioPostiwyd: Mer 10 Tach 2010 7:47 pm
gan Rhobert Ap Wmffre
Mwynheuais i'r delweddau adleisiol yn eich post. Yma yn Wisconsin, mae'r coed yn noeth, ond rydym wedi cael wythnos o dywydd digon braf. Serch hynny, mae cymysgedd o law ac eira ar y ffordd ddydd Sadwrn dwi'n ofni.

Re: 'Dyrchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd.....'

PostioPostiwyd: Sul 05 Rhag 2010 3:49 am
gan Lôn Groes
Rhobert Ap Wmffre a ddywedodd:Mwynheuais i'r delweddau adleisiol yn eich post. Yma yn Wisconsin, mae'r coed yn noeth, ond rydym wedi cael wythnos o dywydd digon braf. Serch hynny, mae cymysgedd o law ac eira ar y ffordd ddydd Sadwrn dwi'n ofni.


Mae'r gaeaf ar ei ffordd does dim cwestiwn am hynny.
Mae hi'n nosi'n gyflym a'r dydd yn cwtogi.
Ond serch hynny mae cynnwrf y Nadolig ar y trothwy.
Wythnos diwethaf fe oleuwyd cannwyll gyntaf yr Adfent.
Yfory caiff yr ail gannwyll ei goleuo.
Mae'r diwrnod mawr yn agoshau:

'Mae pen y bryniau'n llawenhau
Wrth weld yr haul yn agosau
A'r nos yn cilio draw.' (Watcyn Wyn)

http://www.youtube.com/watch?v=SXh7JR9oKVE

Jubilate Deo, omnis terra, Alleluia