Hazel a ddywedodd:Diolch yn fawr iawn, Mali. Roedd 'na eira 'ma ddoe! Daeth eira yn fuan wedi cinio - "Melysfwyd" perffaith!
Wedi bwrw eira yma drwy'r dydd ddoe Hazel , ond erbyn heddiw mae'n brysur glirio gan ei fod hi wedi cynhesu rhywfaint. Dim ond slwtch sydd ar ôl erbyn hyn gwaetha'r modd. Yn falch dy fod wedi mwynhau'r eira , a'r cinio Diolchgarwch ! Gefaist ti dwrci ?
Do. Cawsom ni dwrci ac yr holl "trimmings". Mae'n oer yma heddiw. Roedd y tymheredd yn 26°F / -4°C bore 'ma. Roedd y gwynt oer yn 17°F / -11°C. Serch hynny, mae'r haul yn disgleirio.
Hazel
Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)