Ydio'n wir ......
Postiwyd:
Llun 24 Ion 2011 4:56 pm
gan Mali
Fod Meic Stevens yn dod i Ynys Vancouver ?
Re: Ydio'n wir ......
Postiwyd:
Llun 24 Ion 2011 5:05 pm
gan Hazel
Ydy. Mae'n wir. I ddilyn ei gariad o amser maith yn ôl.
Re: Ydio'n wir ......
Postiwyd:
Llun 24 Ion 2011 5:52 pm
gan Lôn Groes
Mali a ddywedodd:Fod Meic Stevens yn dod i Ynys Vancouver ?
Mae 'na si ei fod o'n dod i Ddyffryn Comox.
Wel am le hyfryd.
Dewis da hefyd!
Re: Ydio'n wir ......
Postiwyd:
Llun 24 Ion 2011 6:41 pm
gan Josgin
Fydd o ddim yn hyfryd am hir os ydi'r gwalch yna'n dewis byw yno.
Re: Ydio'n wir ......
Postiwyd:
Maw 25 Ion 2011 12:52 am
gan Mali
Hazel a ddywedodd:Ydy. Mae'n wir. I ddilyn ei gariad o amser maith yn ôl.
Chwarae teg iddo ac iddi hithau hefyd !
Re: Ydio'n wir ......
Postiwyd:
Maw 25 Ion 2011 12:33 pm
gan dil
ma BC yn hollol epic.
ellaim aros i fynd ir ynysoedd eto.
Re: Ydio'n wir ......
Postiwyd:
Maw 25 Ion 2011 4:57 pm
gan Mali
dil a ddywedodd:ma BC yn hollol epic.
ellaim aros i fynd ir ynysoedd eto.
Ydi , mae'n dalaith hynod . Ychydig yn llaith a llwyd iawn heddiw , ond fe ddaw yr haf ....
Pa ynysoedd wyt ti weld ymweld a nhw dil ?
Gyda llaw , dyma linc i sgwrs a chan efo Meic Stevens:
http://www.bbc.co.uk/iplayer/cy/episode/b00xjxbb/Straeon_Bob_Lliw_Meic_Stevens/
Re: Ydio'n wir ......
Postiwyd:
Maw 25 Ion 2011 5:06 pm
gan Lôn Groes
Josgin a ddywedodd:Fydd o ddim yn hyfryd am hir os ydi'r gwalch yna'n dewis byw yno.
O hec !
A finnau'n meddwl ei fod yn foi go neis?
Re: Ydio'n wir ......
Postiwyd:
Maw 25 Ion 2011 5:17 pm
gan dil
dwi di aros ar ddwy ynys sef galiano ac un arall dwi methu gofio rwan.lle gore dwi di bod i wesylla.
man wraig yn dod o vancouver(wel richmond ne lulu ilnd i ddeud y gwir)ne steveston i ddeud y gwir fyd.
dwi d bod fore 2 waith am tua mis ar y tro.
tin byw fane wyt?