Tudalen 2 o 2

Re: Ydio'n wir ......

PostioPostiwyd: Maw 25 Ion 2011 5:23 pm
gan Mali
dil a ddywedodd:dwi di aros ar ddwy ynys sef galiano ac un arall dwi methu gofio rwan.lle gore dwi di bod i wesylla.
man wraig yn dod o vancouver(wel richmond ne lulu ilnd i ddeud y gwir)ne steveston i ddeud y gwir fyd.
dwi d bod fore 2 waith am tua mis ar y tro.
tin byw fane wyt?


Oes , mae 'na nifer o ynysoedd hardd yma ,yn ogystal ar ynys fawr ...Ynys Vancouver wrth gwrs. :D Wedi bod yn Richmond sawl gwaith , gan fod ffrindiau i ni yn byw yno. Hefyd o Faes Awyr Vancouver y byddwn yn fflio adref , fel arfer.

Re: Ydio'n wir ......

PostioPostiwyd: Maw 25 Ion 2011 9:42 pm
gan Hazel
Lôn Groes a ddywedodd:Mae 'na si ei fod o'n dod i Ddyffryn Comox.
Wel am le hyfryd.
Dewis da hefyd!


Lôn, ydy hi'n bwrw eira acw cymaint â yma? 'Na aeaf! :-(

Re: Ydio'n wir ......

PostioPostiwyd: Sad 05 Chw 2011 10:02 pm
gan Lôn Groes
Hazel a ddywedodd:
Lôn Groes a ddywedodd:Mae 'na si ei fod o'n dod i Ddyffryn Comox.
Wel am le hyfryd.
Dewis da hefyd!


Lôn, ydy hi'n bwrw eira acw cymaint â yma? 'Na aeaf! :-(


Mae 'na ddigonedd o eira ar tir mawr British Columbia yn y gaeaf.
Ond fel rheol mae Vancouver, Victoria a'r Ynys yn cael mwy o wlaw nag eira adeg yma o'r flwyddyn.
Wrth gwrs mae 'na eira ar y mynyddoedd o gylch Vancouver ac ar fynyddoedd yr Ynys.

Mi fuaswn i'n dweyd bod Missouri yn ennill y gystadleuaeth eira 'hands down.'

Mi roedd hi'n 56F yn Vancouver y dydd o'r blaen :)

Re: Ydio'n wir ......

PostioPostiwyd: Sul 14 Awst 2011 2:59 am
gan Mali
Wel mae'n debyg mai i Ddyffryn Comox y bydd Meic Stevens yn dod ........ellai welai di o gwmpas Meic ! :winc:
http://www.ylolfa.com/dangos.php?ISBN=9781847713247