Tudalen 1 o 1

Cyngor Da

PostioPostiwyd: Mer 02 Chw 2011 10:47 am
gan Hazel
Mae'r tywydd yn syrthio.
Mam Natur yn dawnsio.
Mae'n rheolwr yn becsio
Tra bod o'n siantio:

"Arhoswch gartref, os gwelwch yn dda!" :ing:


http://www.nytimes.com/2011/02/02/us/02 ... &emc=tha23

Re: Cyngor Da

PostioPostiwyd: Iau 03 Chw 2011 12:50 am
gan Mali
A dyna gyngor da iawn , yn enwedig pan mae'r swyddfa dywydd yn rhoi rhybudd fel hyn...

DANGEROUS MULTIFACETED AND LIFE-THREATENING WINTER STORM ... BEFORE MAKING DECISION TO TRAVEL ... CONSIDER IF GETTING TO YOUR DESTINATION IS WORTH PUTTING YOUR LIFE AT RISK ... DO NOT TRAVEL! IF YOU ABSOLUTELY MUST TRAVEL ... HAVE A WINTER SURVIVAL KIT WITH YOU.”

:ofn:

A chan fod y storm fawr yn gwneud ei ffordd i'r gogledd ,dwi'n falch mai ar yr arfordir orllewinol dwi'n byw !
Ydi hi'n ddrwg acw Hazel?

Re: Cyngor Da

PostioPostiwyd: Iau 03 Chw 2011 1:06 pm
gan Hazel
Yma, yn fy tŷ, mwy o iâ na eira. Dwy fodfedd o rew ac wedyn pedair neu bum modfedd o eira ar ei ben. Rhywle arall roedd yn lawer gwaeth. Cafodd y briffordd I-70 ei chau o Kansas City i St. Louis drwy'r diwrnod ar ôl y dymestl.

Re: Cyngor Da

PostioPostiwyd: Sad 05 Chw 2011 4:36 pm
gan Mali
Swnio'n ddrwg iawn Hazel. Wedi gweld lluniau digon brawychus o ffyrdd wedi eu cau a rhesi a rhesi o geir , a dim ond eu topiau i weld yn yr eira. :ofn:
Gobeithio dy fod yn cadw'n saff ac yn glud .
Sut mae pethau erbyn heddiw ?

Re: Cyngor Da

PostioPostiwyd: Sad 05 Chw 2011 5:28 pm
gan Hazel
Roedd mwy o eira bore 'ma, Mali. Er hynny, ddim rhew, diolch byth. Rwy'n cadw'n saff, diolch. Does dim rhaid i mi fynd allan. Cadw'n gynnes acw.

Re: Cyngor Da

PostioPostiwyd: Sad 05 Chw 2011 10:01 pm
gan Mali
Da clywed dy fod yn cadw'n saff . :D Adref ydi'r lle gorau i fod yn y fath dywydd. Fyddai byth yn mentro allan yn y car os fydd 'na eira ar y ffyrdd. Wedi bod yn lwcus hyd yma efo'r tywydd ac yn medru brasgamu o gwmpas y dref yn rhwydd.