Tudalen 1 o 1

Eirlysiau

PostioPostiwyd: Llun 14 Chw 2011 12:35 am
gan Lôn Groes
Mae nhw allan fan hyn ers bron i dair wythnos bellach.
Ydy nhw allan yng Nghymru eto?

Oblegid pan ddeffroais
Ac agor heddiw'r drws
Fel ganwaith yn fy hiraeth,
Wele'r eirlysiau tlws
"Oll yn eu gynau gwynion,
Ac ar eu newydd wedd
Yn debyg idd eu Harglwydd
Yn dod i'r lan o'r bedd." (Eirlysiau:Cynan)

Ydy nhw allan yng Nghymru?


http://www.geograph.org.uk/photo/684032

Re: Eirlysiau

PostioPostiwyd: Gwe 18 Chw 2011 4:41 pm
gan Mali
Llun hardd iawn Lon Groes !
Debyg bydd yr eirlysiau bychain sydd o gwmpas yn dechrau plygu heddiw dan bwysau yr eira . :( Mae'n rhyfeddol gymaint o amser y cawn i'w mwynhau nhw yn y fath oerfel a thywydd garw.

Re: Eirlysiau

PostioPostiwyd: Gwe 18 Chw 2011 6:32 pm
gan Lôn Groes
Mali a ddywedodd:Llun hardd iawn Lon Groes !
Debyg bydd yr eirlysiau bychain sydd o gwmpas yn dechrau plygu heddiw dan bwysau yr eira . :( Mae'n rhyfeddol gymaint o amser y cawn i'w mwynhau nhw yn y fath oerfel a thywydd garw.


Digon gwir. Ond er gwaetha pob bygythiad maent yn mynnu dod allan.
Dyma wers.
Er 'gwaetha pawb a phopeth; mae nhw yma o hyd.' :)