Tudalen 1 o 1

Dydd Gwyl Dewi Sant

PostioPostiwyd: Sul 27 Chw 2011 7:49 pm
gan Lôn Groes
Mi fydd hi'n Fawrth y cyntaf ac yn Ddydd Gwyl Dewi Sant mewn dim o beth rwan.
Wel dydd Mawrth nesa 'ma wrth gwrs.
Dyma ddiwrnod i ddathlu Dydd Gwyl Nawddsant Cymru.
Ac i ddathlu'r amgylchiad cawsom ganiatâd i osod Draig Goch fawr ar ffenestr ffrynt archfarchnad leol; a dyma hi:

Delwedd

Re: Dydd Gwyl Dewi Sant

PostioPostiwyd: Llun 28 Chw 2011 11:43 pm
gan Emma Reese
Gwych! Pwy wnaeth ei phaentio hi?

Re: Dydd Gwyl Dewi Sant

PostioPostiwyd: Maw 01 Maw 2011 6:20 am
gan Lôn Groes
Emma Reese a ddywedodd:Gwych! Pwy wnaeth ei phaentio hi?


Artist lleol o'r enw Corrine Parker ddaru lunio'r Ddraig Goch ar ffenestr yr archfarchnad.
A chwarae teg iddi; hi ddaru ofyn am ganiatâd y perchnogion i baentio'r ddraig.
A dyna ni; mae hi'n Ddydd Gwyl Dewi yng Nghymru bellach:

Os wyt Gymro hoff o'th wlad,
A hoff o'th dadau dewrion,
Cadw wyl er mwyn dy had—
Ni waeth beth ddywed estron,—
Gwisg genhinen yn dy gap,
A gwisg hi yn dy galon. (Eifion Wyn)

http://www.youtube.com/watch?v=RNtybd7kTqo

Re: Dydd Gwyl Dewi Sant

PostioPostiwyd: Maw 01 Maw 2011 9:26 pm
gan Mali
Dydd Gwyl Dewi Sant Hapus i bawb ! Mae faner y Ddraig Goch yn chwifio'n dda yn yr awel , a da ni newydd orffen powlan o gawl cenin . Neis ... 8)

Re: Dydd Gwyl Dewi Sant

PostioPostiwyd: Maw 01 Maw 2011 9:53 pm
gan Emma Reese
Mi wnes i godi fy Nraig Goch hefyd. Mae Bara Brith yn barod. Mi wna i ddechrau coginio cawl cennin yn fuan.