Yn eisiau: au pair Gymraeg!

Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cymedrolwr: Mali

Rheolau’r seiat
Cyfle i'r sawl sydd yn byw neu wedi byw y tu allan i Hen Wlad fy Nhadau drafod ymysg eu gilydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yn eisiau: au pair Gymraeg!

Postiogan Dafydd ab Iago » Mer 30 Mai 2012 5:01 pm

Helo pawb,

Y flwyddyn 'ma rwyf wedi gadael pethau'n hwyr i ffeindio au pair. Byddwn yn falch pe baech chi'n gallu ymledu'r gair os ydych yn nabod rhywun a diddordeb.

Blwyddyn Bant / Dysgu Ffrangeg a gweithio fel au pair yng Ngwlad Belg

Diolch ymlaen llaw.
Dafydd

------------------------------- -------------------------------

Blwyddyn Bant / Dysgu Ffrangeg a gweithio fel au pair yng Ngwlad Belg

Dysgu Ffrangeg/Cyfle ar gyfer au pair Gymraeg yng Ngwlad Belg

Rydym yn deulu ifanc gyda mab pump oed (a babi sy ar y ffordd!). Rydym yn byw yn Brwsel, Gwlad Belg, ac yn chwilio am 'au pair' Gymraeg i ddod draw o ddiwedd fis Medi 2012 i Mehefin/Gorffenaf 2013 i ofalu am ein mab pump oed a'r babi bach. Os oes diddordeb ganddoch, ac am ragor o fanylion: dafyddabiago@gmail.com
Ni ddylid gosod sticeri ar eitemau cyhoeddus.
Rhithffurf defnyddiwr
Dafydd ab Iago
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 93
Ymunwyd: Iau 22 Meh 2006 3:38 pm
Lleoliad: Brwsel

Dychwelyd i Cymry Ar Wasgar

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron