Tudalen 1 o 1

Cymry Cymraeg yn Ninas Efrog Newydd?

PostioPostiwyd: Iau 06 Meh 2013 3:34 pm
gan garik
Oes na rhai (ar wahan i mi)? Dwi'n dal i chwilio, ac 'swn i'n hoffi i'm mab dwy-oed glywed mwy o'r iaith.

Re: Cymry Cymraeg yn Ninas Efrog Newydd?

PostioPostiwyd: Gwe 07 Meh 2013 9:36 am
gan ceribethlem
Roedd ffrind i mi yn byw nepell o Efrog Newydd, byddai'n trial ffeindio mas lle mae'n byw nawr. Mae mab bach gydag ef hefyd.

Re: Cymry Cymraeg yn Ninas Efrog Newydd?

PostioPostiwyd: Gwe 07 Meh 2013 4:31 pm
gan garik
Diolch, Ceri!

Re: Cymry Cymraeg yn Ninas Efrog Newydd?

PostioPostiwyd: Gwe 14 Meh 2013 8:35 pm
gan ceribethlem
Ymddiheuriadau am yr oedi.
Mae'r cyfaill wedi symud o gyffuniau Efrog Newydd i Ogledd Carolina, felly dim lot o help yn anffodus.

Re: Cymry Cymraeg yn Ninas Efrog Newydd?

PostioPostiwyd: Sul 16 Meh 2013 12:43 am
gan garik
Wel, diolch am ffindio allan, beth bynnag. Mae'n debyg bydden ni'n symyd rhywle arall cyn diwedd 2014 beth bynnag...

Re: Cymry Cymraeg yn Ninas Efrog Newydd?

PostioPostiwyd: Maw 18 Chw 2014 4:58 am
gan MelisaAnnis
Gwell hwyr na hwyrach yw'r gobaith yma...

Dwi'n byw yn Efrog Newydd ac efo profiad gwarchod plant Cymry Cymraeg yma - rhowch showt os da'chi'n ffansi cyfarfod.

Mêlisa

Re: Cymry Cymraeg yn Ninas Efrog Newydd?

PostioPostiwyd: Maw 18 Chw 2014 3:56 pm
gan garik
MelisaAnnis a ddywedodd:Gwell hwyr na hwyrach yw'r gobaith yma...

Dwi'n byw yn Efrog Newydd ac efo profiad gwarchod plant Cymry Cymraeg yma - rhowch showt os da'chi'n ffansi cyfarfod.

Mêlisa


Diolch am ymateb, Mêlisa. Fel mae'n digwydd, dwi newydd glywed ein bod ni'n symyd i Ffiladelffia! Ond mae gennyn ni ychydig o fisoedd ar ôl yma cyn hynny, ac sa'n neis iawn i gyfarfod. Ond well i ni aros cyn gwneud planiau: Mae gennyn ni fabi arall ar ei ffordd hefyd, ac mae na siawns go dda bydd hi'n ymddangos cyn diwedd yr wythnos hon. (Ia, mae Chwefror 2014 yn fis eitha mawr i ni...)