1. Hoff siop?
Percussion House yng Nghaerdydd. Siop drymiau ydio. Hollol wych o siop. Ac wastad yn wag.
2. Wrth gerddad adra ar ol noson trwm yn y tafarn, wedi anghofio'n llwyr am fynd io nol kebab, beth fydd y peth cyntaf fyddech yn ei fwyta o'r gegin?
Fel arfar, sothach fel crisps, bistcits a.y.y.b. Ond mae o wedi amrywio o tost a nutella i afal efo pistachios wedi ei drunkenly insertio yndda nhw.
3. Hoff bwnc yn yr Ysgol/ coleg?
Ysgol - Hoff bwnc odd Cerdd heb os. Cael gneud wbath odd yn diddori fi.
Coleg - Dwi'n casau yr ochr addysgol o Coleg, ond probably Cerdd eto.
4. Hoff C.D?
Guns N' Roses - Appetite for Destruction NEU Green Day - Dookie NEU We Are Scientists - With Love and Squalor. Allaim dewis.
5. Faint o wledydd gwahanol rydych wedi bod yn drwy eich oes?
Cymru, Lloegr, Alban, Gweriniaeth Iwerddon (yn wahanol i'r arfer, dwi ddim isho mynd i'r Gogladd yno.), Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Almaen, Yr Eidal, Groeg a Sbaen.