1. Beth yw'r hercan (haircut) gwaetha' i chi gael erioed?
Crew cut pan oni tua 13. Oni'n meddwl modi mor cwl, a wedi meddwl, mi oni'n iawn.
2. Ych chi erioed wedi lliwio'ch gwallt?
Do, disgrifwyd y lliw fel bod yn union run fath a lliw tu mewn i crunchy. Sy'n swnio'n cwl ond yn edrach yn shait.
3. Y'ch chi erioed wedi ceisio 'emiwleiddio' steil rhywun arall? Pwy?
Do lot o bobol, Cowbois Rhos Botwnnog ar y funud.
4. Beth 'y'ch chi'n gwisgo heddiw?
Jins sy LOT rhy dyn, jwmper frown, top glas handi a sana sy'n blydi matchio.
5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?
Nagoes.