1. Beth yw'r hercan (haircut) gwaetha' i chi gael erioed?
ma
hwn yn eitha spectaciwlar - es i drwy gyfnod o'i dorri fe fy hun yn reit amal, felly mm, ma lot o ddewis. crewyd "y legolas" drwy roi colandr ikea ar fy mhen a thorri haenen dop y gwallt i ffwrdd i adael torriad powlen a mwled hir iawn oddi tano. actiwali, o'dd e'n edrych yn cwl. so stwff.
dorres i fe i gyd bant pan o'n i tua 12. o'n i'n edrych fel fy yncl maelor (sydd ddim yn beth gwael, ond o'n i'n ferch 12 oed ar y pryd...)
2. Ych chi erioed wedi lliwio'ch gwallt?
do. dyma'r cyfnod cynta' heb liw am nifer hir o flynyddoedd. mae di bod yn goch, du, du ac oren, blond, plwm, pinc, oreni-melyn ag ati mmmm.
3. Y'ch chi erioed wedi ceisio 'emiwleiddio' steil rhywun arall? Pwy?
wel, yn y categori 'i wish' ma' dita von teese, shirley bassey, justine o elastica, y Mods yn gyffredinol. ww, a tina turner yn 'mad max 2: beyond the thunderdome'.
go iawn: neb lot, ond wy'n edrych fel tomboi mas o ffilm antur o'r 80au fel arfer.
4. Beth 'y'ch chi'n gwisgo heddiw?
wy'n newid sawl gwaith y dydd (dim rheswm) os dwi adre. nawr, wy'n gwisgo fy loncwisg weithio a fy siaced weithio. dwi'n ganol newid, ddo, am fod angen mynd i moyn cinio arnai.
5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?*
ar hyn o bryd? tase ateb i 'how can we further extend and explore panofsky's interpretation of d