1. Beth yw'r hercan (haircut) gwaetha' i chi gael erioed?
Ma'r un sgin i rwan reit crap - pa ran o "dwim isho layers byr" dy'n nhw'm yn ddallt?! Dwi di bod reit boring ar hyd fy mywyd rili, heb veerio oddi wrth gwallt mid-length i hir.
2. Ych chi erioed wedi lliwio'ch gwallt?
Ma gin i highlights blondish rwan, dim byd "in yer face". Gesh i brofiad anffortunus hefo "Sun-in" pan on i tua 13 (i rywun sydd ddim yn gwbod, ryw spray dach chi'n roi ar eich gwallt a wedyn rhoi sychwr gwallt poeth arno fo neu mynd i mewn i'r haul i neud y lliw ddatblygu. Yn syml, mae'n lladd y gwallt.). Gymrodd hi 2-3 blynedd iddo fo dyfu allan i gyd, odd yr hairdresser yn gwrthod ei liwio fo'n ol yn frown rhag i'r gwallt ddisintergratio!
3. Y'ch chi erioed wedi ceisio 'emiwleiddio' steil rhywun arall? Pwy?
Neb penodol, ambell wisg dwi wedi weld ar rywun ella. On in desperate am y "Rachel haircut" pan odd Friends yn ran pwysig iawn o fy mywyd i...
4. Beth 'y'ch chi'n gwisgo heddiw?
Jins, crys t du, belt mawr, mwclis liwgar a breichled chunky. (Well gin i accessories na dillad!!)
5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?*
Os fysa ni'n byw ar y blaned Mawrth (neu beth bynnag), fysa ni'n galw'r pridd o dan ein traed yn "y Mawrth" yn lle "y ddaear"