Tudalen 2 o 5

Re: Pump am y Penwythnos - 10/3/06

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 12:10 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Beth yw'r hercan (haircut) gwaetha' i chi gael erioed?

Un geshi o Tony & Guy i fy mhen-blwydd. Edrych yn hoyw iawn iawn.

2. Ych chi erioed wedi lliwio'ch gwallt?

Do, lot o weithiau: yn goch, yn blond ac yn biws (roedd y piws i fod yn goch hefyd)

3. Y'ch chi erioed wedi ceisio 'emiwleiddio' steil rhywun arall? Pwy?

Naddo

4. Beth 'y'ch chi'n gwisgo heddiw?

Ar y funud shorts.

5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?*

Na, nid oes gennyf yr un awch i ehangu fy ngwybodaeth.

Re: Pump am y Penwythnos - 10/3/06

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 12:21 pm
gan joni
1. Beth yw'r hercan (haircut) gwaetha' i chi gael erioed?
Ges i cyt circa 1991 oedd yn neud i fi edrych fel arth. Not gwd.
2. Ych chi erioed wedi lliwio'ch gwallt?
Do. A'th y gwallt yn blond rhyw noson feddw yn y coleg.
3. Y'ch chi erioed wedi ceisio 'emiwleiddio' steil rhywun arall? Pwy?
Robert Croft. Rhyfedd iawn.
4. Beth 'y'ch chi'n gwisgo heddiw?
Jeans, crys du a sgidie du.
5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?*
y cwestiwn yma.

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 12:42 pm
gan tafod_bach
1. Beth yw'r hercan (haircut) gwaetha' i chi gael erioed?

ma hwn yn eitha spectaciwlar - es i drwy gyfnod o'i dorri fe fy hun yn reit amal, felly mm, ma lot o ddewis. crewyd "y legolas" drwy roi colandr ikea ar fy mhen a thorri haenen dop y gwallt i ffwrdd i adael torriad powlen a mwled hir iawn oddi tano. actiwali, o'dd e'n edrych yn cwl. so stwff.
dorres i fe i gyd bant pan o'n i tua 12. o'n i'n edrych fel fy yncl maelor (sydd ddim yn beth gwael, ond o'n i'n ferch 12 oed ar y pryd...)

2. Ych chi erioed wedi lliwio'ch gwallt?
do. dyma'r cyfnod cynta' heb liw am nifer hir o flynyddoedd. mae di bod yn goch, du, du ac oren, blond, plwm, pinc, oreni-melyn ag ati mmmm.

3. Y'ch chi erioed wedi ceisio 'emiwleiddio' steil rhywun arall? Pwy?
wel, yn y categori 'i wish' ma' dita von teese, shirley bassey, justine o elastica, y Mods yn gyffredinol. ww, a tina turner yn 'mad max 2: beyond the thunderdome'.
go iawn: neb lot, ond wy'n edrych fel tomboi mas o ffilm antur o'r 80au fel arfer.

4. Beth 'y'ch chi'n gwisgo heddiw?
wy'n newid sawl gwaith y dydd (dim rheswm) os dwi adre. nawr, wy'n gwisgo fy loncwisg weithio a fy siaced weithio. dwi'n ganol newid, ddo, am fod angen mynd i moyn cinio arnai.

5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?*
ar hyn o bryd? tase ateb i 'how can we further extend and explore panofsky's interpretation of d

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 12:44 pm
gan satswma
1. Beth yw'r hercan (haircut) gwaetha' i chi gael erioed?

A-symmetrical cwpl o flynyddau nol :wps:

2. Ych chi erioed wedi lliwio'ch gwallt?


Sawl gwaith.

3. Y'ch chi erioed wedi ceisio 'emiwleiddio' steil rhywun arall? Pwy?

Ma genni got ffwr sy'n neud i fi edrych fel Pete Burns.

4. Beth 'y'ch chi'n gwisgo heddiw?

jins, crys, wasgod, high heels porffor, llawer ormod o gemwaith aur yn 'emiwleiddio' Mr T.

5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?*

Beth nath actually digwydd rhwng Tim a Mike yn 'Spaced' nath arbed Mike rhag fynd i'r fyddin?

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 12:47 pm
gan tafod_bach
5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?*

Beth nath actually digwydd rhwng Tim a Mike yn 'Spaced' nath arbed Mike rhag fynd i'r fyddin?


yr ateb, yn susnag...

At the TA, Tim wishes Mike good luck for his interview. He also apologises again for what happened all those years ago. As kids, Mike and Tim were sitting in a tree, Tim jumped down safely and cajoled Mike into doing likewise. However, when Mike hit the deck, his retinas detached meaning he could never get into the proper army. So now we know

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 12:59 pm
gan satswma
tafod_bach a ddywedodd:
5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?*

Beth nath actually digwydd rhwng Tim a Mike yn 'Spaced' nath arbed Mike rhag fynd i'r fyddin?


yr ateb, yn susnag...

At the TA, Tim wishes Mike good luck for his interview. He also apologises again for what happened all those years ago. As kids, Mike and Tim were sitting in a tree, Tim jumped down safely and cajoled Mike into doing likewise. However, when Mike hit the deck, his retinas detached meaning he could never get into the proper army. So now we know

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 1:03 pm
gan khmer hun
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:4. a siaced denim


W, aye, ga'i e nol rywbryd? :winc:

1. Beth yw'r hercan (haircut) gwaetha' i chi gael erioed?
Tebyg iawn o brofiad y Tracwisg ryw ddeng mlynedd n

Re: Pump am y Penwythnos - 10/3/06

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 1:06 pm
gan Rhodri Nwdls
1. Beth yw'r hercan (haircut) gwaetha' i chi gael erioed?
O'n i'n eitha joio fo, ond mae'n debyg fod o'n reit wael...crewcut ar y rhan fwyaf o mhen, heblaw am y fringe oedd yn dod dros fy llygaid mewn 6-7 (dibynnu ar y tywydd) ringlet hiwj. O'n i bron methu gweld lle ro'n i'n mynd ar y ffordd i Coleg Meirion Dwyfro bob dydd pan oedd o'n wlyb.

2. Ych chi erioed wedi lliwio'ch gwallt?
Bleach blonde spikes, ar

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 1:15 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
satswma a ddywedodd:5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?*

Beth nath actually digwydd rhwng Tim a Mike yn 'Spaced' nath arbed Mike rhag fynd i'r fyddin?


A beth yw union hyd coc Brian?

Re: Pump am y Penwythnos - 10/3/06

PostioPostiwyd: Gwe 10 Maw 2006 1:25 pm
gan Fflamingo gwyrdd
1. Beth yw'r hercan (haircut) gwaetha' i chi gael erioed?
Madarchen
2. Ych chi erioed wedi lliwio'ch gwallt?
Do wedi bod yn olau, yn oren a bron yn ddu, ar dri achlysur gwahanol. Naturiol bellach.
3. Y'ch chi erioed wedi ceisio 'emiwleiddio' steil rhywun arall? Pwy?
Wele'r Blogel
4. Beth 'y'ch chi'n gwisgo heddiw?
Trowsus du, fest ddu a siwmper hir, feddal, werdd
5. Oes gyda chi gwestiwn y'ch chi wastad wedi mo'yn cael ei ateb?*
Ydi fy ngwyrdd i 'run peth a gwyrdd pawb arall?