Pump am y Penwythnos 14.4.06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 14.4.06

Postiogan Chwadan » Gwe 14 Ebr 2006 10:08 am

Reit, dwi am gal tro arni gan ei bod hi'n ddistaw yma...

1. Pa un ydi'ch hoff ffotograff?

2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?

3. Pryd oedd y tro cynta i chi daflu fyny yn nhoilet rhywun arall?

4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno?

5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos 14.4.06

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 14 Ebr 2006 10:18 am

1. Pa un ydi'ch hoff ffotograff?

Un a dynnais o ben Nant Ffrancon yn edrych i lawr ar y dyffryn

2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?

Plwmsan

3. Pryd oedd y tro cynta i chi daflu fyny yn nhoilet rhywun arall?

Achadwriaeth dw i byth wedi gwneud y ffasiwn beth! (er bu imi chwydu dros fy nhrowsus yng Nghlwb Ifor neithiwr)

4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno?

'Swn i 'di deutha'n hun nithiwr doedd dim angen y gwin 'na

5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"?

Delwedd
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Aranwr » Gwe 14 Ebr 2006 10:35 am

1. Pa un ydy'ch hoff ffotograff?

Llun dynnes i yn Lesotho pan o'n i yno gyda'r Urdd i godi tai bach. Llun o blant y pentre' yn eistedd ar lethr melyn gyda'r awyr las yn gefndir iddyn nhw. Oedden nhw gyd yn gweiddi arnai "Shoot me! Shoot me!" - yn moyn i mi dynnu llun ohonyn nhw.

2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?

Sai'n siwr. Shwrofod un o'n ffrindie i chos nhw sy'n yn abod i ore.

3. Pryd oedd y tro cynta i ti daflu fyny yn nhoilet rhywyn arall?

Pan aeth criw ohonon ni i garafan ffrind yn Parog am noson. Chwydes i fyny yn y toilet a wedyn ceisio mynd ati, yn fy chwildod, i lanhau'r mess 'da'r llen gawod - nid y defnydd mwya' absorbent yn y byd!

4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno?

Wel, naill ai - "ie, cer amdani" neu "na, paid".

5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"?

Rhaglen goginio Dudley. Byddai snorcyn horniog melyn yn flasus iawn gyda dyrned o "shibwns"!
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Re: Pump am y Penwythnos 14.4.06

Postiogan Sili » Gwe 14 Ebr 2006 10:50 am

1. Pa un ydi'ch hoff ffotograff?
Ffotograff nesi dynnu dwy flynedd yn ol o sgerbwd mochyn yn cael ei losgi fel rhan o gerflun nesi. Ma na fflamau yn llenwi'r siot a jest penglog y mochyn druan yn gwenu o'u canol. Sbwci.

2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?
Gesi'r drafodaeth yma dwrnod o'r blaen a dyma dod i'r canlyniad mai Kirsten Dunst fyswn i. Dwi'n anghytuno'n llwyr th'gwrs ac yn optio am Brian Blessed.

3. Pryd oedd y tro cynta i chi daflu fyny yn nhoilet rhywun arall?
Pan oni'n 14 ac yn feddw gocls :wps:

4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno?
Tria beidio mynd allan o'r ty rhwng yr oed 13 i 15. Dodd o'm y lwc gora rioed sdi.

5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"?
Syniad ar gyfer can newydd Cowbois Rhos Botwnnog...
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Socsan » Gwe 14 Ebr 2006 10:53 am

1. Pa un ydy'ch hoff ffotograff?
Methu tynnu llyniau da iawn, ond pan odd hi'n bwrw eira tua deufis yn ol dynnais i lun o ddeilen ryw blanhigyn hefo eira arno fo. A del iawn ydio hefyd.

2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?
Hmmmmm, cymaint o ddewis... Kate Winslet dwi'n meddwl - licio hi fel actores, a ma gyno hi lygaid glas. (Fedrai'm meddwl am reswm gwell!)

3. Pryd oedd y tro cynta i ti daflu fyny yn nhoilet rhywyn arall?
Pan on in aros yn ty fy nghariad cyntaf. Oddan ni newydd fod allan ac oddn i wedi yfed tipyn gormod, odd y stafell molchi drws nesa i lofft ei rieni fo, felly on in trio chwydu yn ddistaw bach tra'n crinjo a teimlo cywilydd mawr iawn iawn! Mae wedi fy nysgu i beidio a meddwi'n racs os dwi'n aros yn ty rhywun arall.

4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno?
"Chill out! Ti'n meddwl fod dy fywyd yn stressful RWAN... Gwna'r mwya o'r amser hyfryd yma mechan i." :rolio: Dwi'n troi mewn i fy mam.

5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"?
Ryw fath o declyn snorklio melyn hefo cyrn mawr. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan Mwddrwg » Gwe 14 Ebr 2006 1:30 pm

1. Pa un ydy'ch hoff ffotograff?
un ohona' i a'm mrawd pan o'n i'n tua 5, mewn overalls glas a wellingtons coch yn matsio efo'n breichiau wedi'u croesi. 8)

2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?
Kristin Scott Thomas, er bod hi braidd yn hen, neu Lorraine Bracco (sy hefyd braidd yn hen) (methu meddwl am actores ifanc sy actually'n gallu actio fydde'n haeddu rol mor bwysig...)

3. Pryd oedd y tro cynta i ti daflu fyny yn nhoilet rhywyn arall?
Parti penblwydd gwisg ffansi ffrind yn 16

4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno?
"dechreua agolygu rwan" - oddeutu mis ionawr...

5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"?
Smithers - o'r Simpsons :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Postiogan Manon » Gwe 14 Ebr 2006 3:26 pm

1. Pa un ydy'ch hoff ffotograff?
O fy mab yn edrych yn syn ar y camera pan oedd o tua 4 mis oed.

2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?
Lleuwen Steffan.

3. Pryd oedd y tro cynta i ti daflu fyny yn nhoilet rhywyn arall?
Pan o'n i'n 14 ac wedi colapsho ar ol gormod o fodca.

4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno?
Paid a phoeni! Bydd bob dim yn oce!

5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"?
Y Psammyad o '5 Children and It'
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 14.4.06

Postiogan Chwadan » Gwe 14 Ebr 2006 3:49 pm

1. Pa un ydi'ch hoff ffotograff?
Un ohona i'n gwisgo cap stabal taid pan on i tua tair, a taid yn edrych yn hurt arna i.

2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?
Cate Blanchett, yn ol hwn

3. Pryd oedd y tro cynta i chi daflu fyny yn nhoilet rhywun arall?
Pan on i tua 8, ar wylia yn Swydd Amwythig. Am ryw reswm dwi heb allu defnyddio Bonjela ers hynny :?

4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno?
Neith y car ddim ffitio mewn i'r twll na rhwng y people carrier a'r wal :wps:

5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"?
Teclyn snorclo melyn efo cyrn.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos 14.4.06

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 14 Ebr 2006 10:00 pm

1. Pa un ydi'ch hoff ffotograff?
Mae yna lun du a gwyn o brotest ar Tianaman square yn China. Mae'r fyddin yn dod tuag at y protestwyr efo tancs yn bygwth saethu nhw. Mae pawb yn gorwedd ar y llawr a mae un boi yn sefyll fynny- soul power ar ei orau, dwi'n meddwl. Yr unig beth shit ydi nath y boi cael ei ladd.

2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?
Dwi'm yn siwr, riwyn sydd yn edrych fel dipyn bach o hedar ella.

3. Pryd oedd y tro cynta i chi daflu fyny yn nhoilet rhywun arall?
Pan oeddwn i'n ddeuddeg, those where the days, go iawn, dim cwilydd a ddim digon hen i wybod yn well.

4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno? Paid a dyfaru dim byd, dos ffordd dy hun, bydd yn chdi dy hyn a enjoia!

5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"? Be ffwc, teimlad o ddryswch llwyr :?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan garynysmon » Gwe 14 Ebr 2006 10:47 pm

1. Pa un ydi'ch hoff ffotograff?
Dave MacKay yn gafael yn Billy Bremner wrth ei sgrepan. Mae'n lun Pel Droed enwog.

2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?
Brad Pitt.


3. Pryd oedd y tro cynta i chi daflu fyny yn nhoilet rhywun arall?

Sgen i wir ddim cof, er mod i wedi gwneud mashwr. Dwi'm yn taflu fynny ar ol yfed fel arfer.

4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno?

Paid rhoi gormod o bwysau ar dy hun pan ti'n mynd ar noson allan.

5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"?
Ti'n weirdo.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron