1. Pa un ydy'ch hoff ffotograff?
Methu tynnu llyniau da iawn, ond pan odd hi'n bwrw eira tua deufis yn ol dynnais i lun o ddeilen ryw blanhigyn hefo eira arno fo. A del iawn ydio hefyd.
2. Mewn ffilm o'ch bywyd, pwy fyddai'n eich actio chi?
Hmmmmm, cymaint o ddewis... Kate Winslet dwi'n meddwl - licio hi fel actores, a ma gyno hi lygaid glas. (Fedrai'm meddwl am reswm gwell!)
3. Pryd oedd y tro cynta i ti daflu fyny yn nhoilet rhywyn arall?
Pan on in aros yn ty fy nghariad cyntaf. Oddan ni newydd fod allan ac oddn i wedi yfed tipyn gormod, odd y stafell molchi drws nesa i lofft ei rieni fo, felly on in trio chwydu yn ddistaw bach tra'n crinjo a teimlo cywilydd mawr iawn iawn! Mae wedi fy nysgu i beidio a meddwi'n racs os dwi'n aros yn ty rhywun arall.
4. Tasa chi'n gallu mynd nol mewn amser a rhoi neges o gyngor i chi'ch hun, be fasa'r neges honno?
"Chill out! Ti'n meddwl fod dy fywyd yn stressful RWAN... Gwna'r mwya o'r amser hyfryd yma mechan i."
Dwi'n troi mewn i fy mam.
5. Be sy'n dod i'r meddwl pan dwi'n deud "snorcyn horniog melyn"?
Ryw fath o declyn snorklio melyn hefo cyrn mawr.