1) Deg mlynadd yn ol be oedd e chi'n meddwl fuasech yn gwneud nawr?
Newyddiadurwr ar bapur newydd/awdur sgriptiau comedi a sci-fi
2)Ble, a be fydde chi'n gobeithio i wneud mewn 5 mlynedd?
Mewn byd delfrydol, mi fuaswn i'n byw gyda Amanda PT a Lisa Gwilym ar ynys bell i ffwrdd, gyda digon o bres i'n cawd ni'n mynd am byth.
Failing that, byw yng nghanolbarth Cymru yn fy nhy fy hyn ac yn gwneud bywoliaeth o sgrifennu sgriptiau/nofelau.
3)A ydych yn falch eich bod yn aelod o Faes-e? Pam? Be' sy' mor dda?
Falch? 'Swn i ddim yn mynd cyn belled a hynna, ond dwi'n mwynahu'r Maes yn fawr iawn.
4)Pwy yw'r athro/athrawes gorau i'ch dysgu? Pam yr athro/athrawes yma?
Glyn Williams, Ffrangeg yng Nholeg Meirion-Dwyfor. Roedd ei wersi yn comedi gold, ac mi ddysgais ychydig o Ffrangeg, hefyd!
Hefyd, 'roedd John Alun "JR" Roberts, fy athro hanes yn Eifionydd, yn dda.
5)Ydy chi'n dallt y ffilm Fight Club?
Yndw. Grwp o ddynion canol oed, trist yn ymladd yn erbyn ei gilydd i blesio Brad Pitt. Hoyw, hollol hoyw