Beth oedd y parti diwethaf i chi fynd iddo?
Fi'n siwr o ypsetio rhywun rwan, a hefyd edrych yn wirioneddol uncool - ond fedraim cofio bod mewn parti am flynyddoedd. Os oni yn eich parti a jest ddim yn cofio, yna ymddiheuriadau!
Disgrifiwch eich cyfarfod diwethaf gyda rhywun dieithr?
Es i noson bachu busnes neithiwr. A cwrdd a tua 30 o bobl ddiarth. Ges i bach o fusnes gan un ohonynt. Ac addewid am ddisgownt yng nghwesty llyn Fyrnwy. Da di'r rhwydweithio ma ynte?
Ydych chi erioed wedi cuddio gwrthrych oddi-wrth rhywun: beth ac ymhle? Nes i guddio esgid fy chwaer yn nhŷ mam a dad ddoe. Ei hongian o'r golau yn y landing. Amser mynd adre a pawb yn chwilio amdano fo. Dad sydd fel arfer yn hynod blin yn gorfod cocsio nad oedd o'n flin achos oedd acriad newydd fy chwaer draw ac roedden ni'n brysyr yn cocsio bo ni'n deulu delfrydol
Ydych chi erioed wedi gwneud cam a gadael i rhywun arall gael y bai?
Do, nes i ddwyn milwr Britains gan fy ffrind i'w wneud yn gapten ar fy milwyr bach plastig crappy fy hun . A wedyn pan nath fy ffrind sylwi a grassio fi fyny i'r athrawes, nes i (bachgen bach da) deud fo fi di gadael o wrth y gwrych tra mod i di mynd i'r tŷ bach, ac wedi gweld bwli yr ysgol (Jamie wbath) yn ei daflu fo dros y gwrych pan ddes i n