Pump am y Penwythnos - 12/5/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 12 Mai 2006 11:01 am

1. Lle yn y byd yw'r man gorau am gael picnic?

Ddim yn un am bicnics chwaith... Efallai taswn i'n cael un perffaith mewn hamper wellt a bara ffres a danteithion neis y basa'n well na mhrofiad i o fag tesco, bechdan wedi ei fflatio dan fflasg a thomatos sogi. Moelyci uwch ben Rhiwlas yn lle delfrydol ar ddiwrnod braf serch hynny.

2. Beth sydd i ginio heddiw?

Gydag 11 o wahanol gafeterias yn y gwaith, fedra'i ddim cwyno nad oes dewis gen i! Wedi bod yn pori ar y mewnrwyd, a dwi'n meddwl ei bod hi naill ai rhwng stir fried rice served with roasted butternut squash and sweet potato neu Penne Pasta with Marinated Artichokes, Green Beans and Peas, grated Parmesan Cheese heddiw. Am
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos - 12/5/06

Postiogan satswma » Gwe 12 Mai 2006 11:03 am

1. Lle yn y byd yw'r man gorau am gael picnic?

Cwm Rheidol a wedyn nofio yn yr afon

2. Beth sydd i ginio heddiw?

Gweddil pasta o neithiwr a avocado i bwdin

3. Beth yw'ch cof cyntaf o fod ar wyliau?

Cael dau tedi-ber i fi a chwaer fi o pobl oedd yn aros drws nesaf i 'villa' ni yn Devon pan o ni tua 3/4

4. Lle a pryd fydd eich gwyliau nesaf?

Benicassim i'r festival wedyn onwards i Barcelona i penblwydd fi :D

5. Disgrifiwch souvenir sy'n eiddo i chi.

Number plate o Berlin nes i "ffeindio ar y llawr" un noson meddw iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
satswma
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 4:18 pm
Lleoliad: Llundain/Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 12/5/06

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 12 Mai 2006 11:11 am

1. Lle yn y byd yw'r man gorau am gael picnic?
O ran nostalja picnics mwya blasus oedd y rhai adag cneifio ar ddiwrnod crasboeth o ha, wedyn dip yn yr afon. Ond o ran bwyd, picnics Ffrainc di'r gora - masif o betha, a gwin a bopath.

2. Beth sydd i ginio heddiw?
Rwbath sydyn o dre, o Treehouse debyg, gan mod i'n mynd yno i n
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos - 12/5/06

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 12 Mai 2006 11:16 am

1.Lle yn y byd yw'r man gorau am gael picnic?

Duw a wyr, gas gennai picnics a morgrug a phryfaid

2. Beth sydd i ginio heddiw?

Baget cig eidion neis iawn o Doughs

3. Beth yw'ch cof cyntaf o fod ar wyliau?

Dw i'm yn siwr ond roeddem ni'n Caerlwytgoed a dw i'n cofio cerdded efo 'nhad o dan noson serennog hynod.

4. Lle a pryd fydd eich gwyliau nesaf?

Wn i ddim a dim am hir iawn

5. Disgrifiwch souvenir sy'n eiddo i chi.

Penglog o Mont St Michel.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos - 12/5/06

Postiogan khmer hun » Gwe 12 Mai 2006 11:22 am

1. Lle yn y byd yw'r man gorau am gael picnic?
Wrth y rhaeadrau yn Nant Gwynant. Ynghanol y bwnis a'r puffins ar Ynys Dewi yn Sir Benfro neu ar y clustog Fair ar gaer Penpleidiau yn gwylio'r bilidowcars. Baguette a thomatos a chaws mewn cae ymyl ffordd yn Ffrainc ('du pain, du vin, du Boursin' ynte). Yfed yn syth o'r botel win tra'n chwarae frizbee mewn parc yng Nghaerdydd. Neu barbeciw ar draeth dinas dinlle (wkend ma gobeitho...). Fi'n picnic addict.

2. Beth sydd i ginio heddiw?
R
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: Pump am y Penwythnos - 12/5/06

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 12 Mai 2006 11:24 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Mynd i Jorvik - smeli


Lle da oedd fanno. Mi es i reit obsesd efo Llychlynwyr ar ol bod yna. Crio a cnadu nad oeddwn i'n cael mynd rownd eto. O'n i'n licio'r ogla, ac yn gweld fy hun yn gallu byw yn eu plith yn braf iawn
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Re: Pump am y Penwythnos - 12/5/06

Postiogan joni » Gwe 12 Mai 2006 11:28 am

Twyllwr Rhinweddol a ddywedodd:
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Mynd i Jorvik - smeli


Lle da oedd fanno. Mi es i reit obsesd efo Llychlynwyr ar ol bod yna. Crio a cnadu nad oeddwn i'n cael mynd rownd eto. O'n i'n licio'r ogla, ac yn gweld fy hun yn gallu byw yn eu plith yn braf iawn

Gwd. Ond smeli. Ro'n nhw neud Viking coins i ti allan o darnau 2 geiniog trwy squasho nhw os dwi'n cofio'n iawn. Sai'n credu bod hwnna'n gyfreithlon, ond 'na ni.
Actiwali, ma'n synnu fi faint o'r llefydd gwylie ma pawb yn son amdanynt dwi wedi bod iddynt gyda'r teulu yn y gorffennol. Cyd-ddigwyddiad? Neu oedd teuluoedd Cymreig yn yr 80au/90au yn ddi-ddychymyg wrth gynllunio'r gwyliau blynyddol?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 12/5/06

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 12 Mai 2006 11:34 am

1. Lle yn y byd yw'r man gorau am gael picnic?
Heb fod "am bicnic" ers blynyddoedd. A bryd hynny, nid "mynd am bicnic" oedden ni'r rhan fwyaf o'r amser, ond mynd a bwyd efo ni i'w fwyta mewn lle cyfleus tra "ar daith". Ar wyliau tramor (yn y garafan) roedd paratoi'r picnic yn rhywbeth oedd yn digwydd yn foreol. Ei daflu i gefn y car a'i fwyta pan dd
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 12/5/06

Postiogan PwdinBlew » Gwe 12 Mai 2006 11:48 am

1. Lle yn y byd yw'r man gorau am gael picnic?
Ar yr hen ffordd rhwng Llanrug a Llanberis dros y top. Golygfa bendigedig
2. Beth sydd i ginio heddiw?
Bechdan o boots mwy na thebyg
3. Beth yw'ch cof cyntaf o fod ar wyliau?
Mynd i Jersey efo Dad a mynd ar y go-karts yno. On i tua 7. Dwin cofio hedfan yn yr awyren bach efo propelars oedd ond yn dal tua 15 o bobl.
4. Lle a pryd fydd eich gwyliau nesaf?
Mynd i Dulun i Oxegen, Gorffennaf y 7fed. Bangar
5. Disgrifiwch souvenir sy'n eiddo i chi.
Oedd gennai flwchllwch o amsterdam ond dwi wedi colli hwnna. Mae gennai fwrth gwyddbwyll pren o Krakow. Mae on un pin efo darnau coch yn hytrach na du. Set bach taclus.
That rabbit's got a vicious streak. It's a killer!


Sbynci
Rhithffurf defnyddiwr
PwdinBlew
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 210
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 4:41 pm
Lleoliad: Yn trigo yng nghastell y tylwyth teg

Re: Pump am y Penwythnos - 12/5/06

Postiogan Chwadan » Gwe 12 Mai 2006 11:49 am

1. Lle yn y byd yw'r man gorau am gael picnic?
Unrhywle efo bwrdd picnic. Dwi'm yn ffan o'r busnes ista ar lawr 'ma.

2. Beth sydd i ginio heddiw?
Brechdan hymys efo nionod a pupur di'i ffrio efo sbeis ffajita (:?), un o'r potia afal pin bach 'na, bar Jordan's a phanad o de.

3. Beth yw'ch cof cyntaf o fod ar wyliau?
Steddfod Abergwaun 1986 dwi'n meddwl. Ond dwi'm yn gwbod os dwi'n cofio hynna achos don i mond 22 mis oed. Felly dduda i Caerfaddon 1987. Ro'n i di cyffroi achos mi oedd na gyrtans rhwng y gegin a'r stafell fyw.

4. Lle a pryd fydd eich gwyliau nesaf?
Slofenia rhwng Sesiwn Fawr a Steddfod.

5. Disgrifiwch souvenir sy'n eiddo i chi.
Nath mam benderfynu 'mod inna am ddechra casglu gwniaduron hefyd :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron