Tudalen 3 o 3

Re: Pump am y Penwythnos - 19/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 19 Mai 2006 12:29 pm
gan Ray Diota
satswma a ddywedodd:Ydych chi erioed wedi bod mewn man nad oeddech chi i fod yno?

nes i crasho medics ball mis dwethaf. ma doctoriaid yn gwbod syt i ddiota.


Na ti beth yw llwyth o gachu. Ma nhw jyst yn mynd mwy wasted achos bo nhw'n mynd mas yn llai aml.

PostioPostiwyd: Gwe 19 Mai 2006 3:35 pm
gan Dili Minllyn
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gymryd rhywbeth heb ganiatâd?
Fasai 'nghydwybod ddim yn gadael i mi wneud y fath beth.
Ydych chi wedi esgus bod yn rhywun arall? Pwy, a pham?
Naddo.
Ydych chi erioed wedi bod mewn man nad oeddech chi i fod yno?
Mi gysgais i ar gwch ar Lyn Galilea unwaith gan 'mod i'n methu fforddio gwesty. Daeth y perchennog yn y bore, a'n hela ni bant.
A fyddech chi’n barod i gloi’ch hun i ffwrdd am ddeufis gyda 13 dieithryn yn enw arbrawf cymdeithasol?
Mae byw am oes gyfan o un ddynes yn ddigon o arbrawf i mi.
Oes yna arbrawf hoffech chi ei wneud ar ein cymdeithas?
Efallai y gallai pawb arbrofi efo bod yn neis i'w gilydd?

Re: Pump am y Penwythnos - 19/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 19 Mai 2006 3:57 pm
gan Iesu Nicky Grist
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gymryd rhywbeth heb ganiatâd?
Neithiwr
Ydych chi wedi esgus bod yn rhywun arall? Pwy, a pham?
Odw. Sawl gwaith. Esgus bod yn Dad dros y ffon - prynnu pethe/siarad 'da'i ffrindie etc. Joio esgus bod yn fab i bobl enwog (wel, minor celebs) - fel Aelodau Seneddol, pop stars Cymraeg a cymeriadau off Pobl Y Cwm/eshphoarshee - er mwyn tynnu coes. Esgus bod yn weinidog/prgethwr er mwyn testo'r dwr ac esgus i gael amser da.
Ydych chi erioed wedi bod mewn man nad oeddech chi i fod yno?
Do. Plis paid gweud 'tho Mother
A fyddech chi’n barod i gloi’ch hun i ffwrdd am ddeufis gyda 13 dieithryn yn enw arbrawf cymdeithasol?'Mond te cyffurie'n involved
Oes yna arbrawf hoffech chi ei wneud ar ein cymdeithas?
Ein cymdeithas?
Fel rhoi shampoo yn llygaid Fred Francis? :?
Dim diolch.

Re: Pump am y Penwythnos - 19/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 19 Mai 2006 7:03 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gymryd rhywbeth heb ganiatâd?
ymmmm, swig o diod fy ffrind neithiwr. roth hi pheint i fi ddal a nes i gymryd swig - mai reit barticlar am betha fel na! :winc
Ydych chi wedi esgus bod yn rhywun arall? Pwy, a pham?
psrti gwisg ffansi a ballu. nesi drio fecio'n hun i mewn i noson clwb cymru fel roc sdar newydd cymraeg ond nath na neb goelio fi. :crio
Ydych chi erioed wedi bod mewn man nad oeddech chi i fod yno?
hmmmm, be yn unio di nad oeddech chi fod yno?! do ma siwr....
A fyddech chi’n barod i gloi’ch hun i ffwrdd am ddeufis gyda 13 dieithryn yn enw arbrawf cymdeithasol?
baswn ond, os sa fo'n cael ei ddarlledu swni'n goro cael neud y editio gynta!
Oes yna arbrawf hoffech chi ei wneud ar ein cymdeithas?
ma huw psych yn son am swyddi, be am jysd peidio gadal neb fynd i gwaith a gweld os di'r lle ma lot hapusach wedyn.

Re: Pump am y Penwythnos - 19/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 19 Mai 2006 7:10 pm
gan Norman
krustysnaks a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:ma na rwbeth rili, rili trist am y ffaith mai lawnt sda ti mewn golwg 'da'r datganiad 'ma... :winc:


Noder absenoldeb "the".


"thc" ti feddwl ia ?

Re: Pump am y Penwythnos - 19/6/06

PostioPostiwyd: Gwe 19 Mai 2006 8:52 pm
gan Selador
Chwadan a ddywedodd:A fyddech chi’n barod i gloi’ch hun i ffwrdd am ddeufis gyda 13 dieithryn yn enw arbrawf cymdeithasol?
Na. Dwi'n voyeur ond ddim yn exhibitionist.


:lol: Ma hwn yn goro enill! (I gwestiwn 4 odd y gystadlaeaeth ondife Dwlwen?)


Pryd oedd y tro diwethaf i chi gymryd rhywbeth heb ganiatâd?
Ooo, dwi'n cymryd liberties trwy'r adeg. Allai gyfiawnhau hyn yn y ffaith bod y siop chinese yn y dre yn chargio am ffyrc. ffycars.

Ydych chi wedi esgus bod yn rhywun arall? Pwy, a pham?
Do, ma pobol yn meddwl mai fi di'r myddar Wbath Alaw na off rownd a rownd reit amal. Fyddai'n seinio petha ac yn rhoi swsus i hogia a ballu.

Ydych chi erioed wedi bod mewn man nad oeddech chi i fod yno?
Do, reit ddiweddar, ond sa'n well imi beidio son am y peth...

A fyddech chi’n barod i gloi’ch hun i ffwrdd am ddeufis gyda 13 dieithryn yn enw arbrawf cymdeithasol?
Os dio ddigon da i George Galloway, mae o'n ddigon da imi.

Oes yna arbrawf hoffech chi ei wneud ar ein cymdeithas?
Oes. Eugenics. Mae o'n cool. [/quote]

Re: Pump am y Penwythnos - 19/5/06

PostioPostiwyd: Gwe 19 Mai 2006 10:50 pm
gan Jakous
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gymryd rhywbeth heb ganiatâd?
Dwyn pacad o ffags o siop leol. Odd genai ddim pres ac o ni eisiau ffags.

Ydych chi wedi esgus bod yn rhywun arall? Pwy, a pham?
Naddo erioed. I am who I am, a dwi'm yn edrych fel neb chwaith.

Ydych chi erioed wedi bod mewn man nad oeddech chi i fod yno?
Wel, you know...

A fyddech chi’n barod i gloi’ch hun i ffwrdd am ddeufis gyda 13 dieithryn yn enw arbrawf cymdeithasol?
Byswn i ddweud y gwir. Odd y syniad gwreiddiol yma yn wych o ni'n meddwl, piti fod Endemol weid cael ei dwylo budr arna fo.

Oes yna arbrawf hoffech chi ei wneud ar ein cymdeithas?
Oes, gweld os allith pobl fynd trwy ddwrnod heb fitcho.

Re: Pump am y Penwythnos - 19/5/06

PostioPostiwyd: Sad 20 Mai 2006 10:48 am
gan Sili
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gymryd rhywbeth heb ganiatâd?
Mae gennai lond dror o 'dissecting gowns' ers mis Medi. A tri paced rizzla a bag baco ers Pasg.

Ydych chi wedi esgus bod yn rhywun arall? Pwy, a pham?
Do. Dros ffon - Mam, social services, Gwyddelod a ballu. "Dwi yn y band". Doctor unwaith efo cot wen a cerdyn NHS i mi gal mynd ar ward rhwng oria ymweld a stiwdant meddygaeth pan oni'n 16 i mi gael mynd lawr i morgs Ysbyty Gwynedd.

Ydych chi erioed wedi bod mewn man nad oeddech chi i fod yno?
Morgs Sbyty Gwynedd.

A fyddech chi’n barod i gloi’ch hun i ffwrdd am ddeufis gyda 13 dieithryn yn enw arbrawf cymdeithasol?
Na. Dwi'n siwr fod gen y boblogaeth gwell i'w wneud na gwylio fi'n y gawod ac yn pigo bodia nhraed.

Oes yna arbrawf hoffech chi ei wneud ar ein cymdeithas?
Unrhyw arbrawf sy'n golygu fod angen cau bob Tescos dieflig lawr. Ychapych.

Re: Pump am y Penwythnos - 19/5/06

PostioPostiwyd: Sul 21 Mai 2006 10:53 pm
gan Wierdo
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gymryd rhywbeth heb ganiatâd?
yyyym...dwnim. Dwi'n ama mod i'n neud weithia heb sylwi :? Diodydd bobl mewn pyb weithia mashwr

Ydych chi wedi esgus bod yn rhywun arall? Pwy, a pham?
Ym...ddim ond mewn eisteddfodau ac ati, neu fel gwisg ffansi

Ydych chi erioed wedi bod mewn man nad oeddech chi i fod yno?
O do mainshwr. Allai ddim bod yn sbesiffig ma gin i ofn!

A fyddech chi’n barod i gloi’ch hun i ffwrdd am ddeufis gyda 13 dieithryn yn enw arbrawf cymdeithasol?
Na. Dwim yn dda iawn gyda phobl diethr. Mi fyswn i wedi cael fy lladd o fewn mater o oriau...

Oes yna arbrawf hoffech chi ei wneud ar ein cymdeithas?
Cytuno gyda Cymro13. Cau'r rhyngrwyd a maes-e am rhyw fis...blaw am fi...swni methu byw heb maes-e :winc:

Re: Pump am y Penwythnos - 19/5/06

PostioPostiwyd: Sul 21 Mai 2006 11:27 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gymryd rhywbeth heb ganiatâd?

Caws o'r ffrij yn fynych (gobeithio na fydd Sleepflower, PwdinBlew na Wil Wal Waliog yn darllen hwn).

Ydych chi wedi esgus bod yn rhywun arall? Pwy, a pham?

Nes i berswadio rhyw ferch yng Nghlwb Ifor Bach 'mod i'n Wyddel am ryw hanner awr, cwpwl o fisoedd nôl. Yn anffodus, droiodd e mas ei bod hi'n nabod 'y nghefnder i oedd 'na yr un pryd.

Ydych chi erioed wedi bod mewn man nad oeddech chi i fod yno?

Tu ôl i'r ddesg gymysgu mewn gig yng Nghlwb Rygbi Pontypridd. Sori, Samba Gales.

A fyddech chi’n barod i gloi’ch hun i ffwrdd am ddeufis gyda 13 dieithryn yn enw arbrawf cymdeithasol?

Arbrawf cymdeithasol? Siwr o fod.

Oes yna arbrawf hoffech chi ei wneud ar ein cymdeithas?

Cael gwared ar lager.