Socsan a ddywedodd:Glywish i enw Basgeg rili neis diwrnod o´r blaen "Ainhoa" (ond da chi´n ddeud o fel "Ainoa"). On i wrth fy modd, meddwl sa fo´n enw neis a gwreiddiol yng Nghymru tra´n swnio´n Gymreig hefyd. Tan i rywun Saesneg bwyntio allan i fi ei fod yn swnio fel cockney yn trio deud "I know her". Bastad.
Sori socsan, ma Wyres Cynog Dafis wedi hawlio'r sgwp yna yn barod. Cytuno bod e'n neis ddo.
1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?
Jyst gwylltio? Pyndits pel droed ar teli yn Enwedig Ian Walsh wrth wylio Cymru dydd Sul.
Gwylltio'n gacwn? Darllen edefau ar XuQa gan fyfyrwyr yn Aber yn beretio'r Gymraeg o fewn 10 munud i edrych ar y thing am y tro cynta erioed.
2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?
Sai'n cofio'r tro dwetha i fi dorri 'mol yn chwerthin ond ma na nifer o bethe sy'n dod i'r cof. Gwylio'r Anchorman eto echddoe, cartwns am Two Jags yn y Guardian, cyfweliad Leighton James a Bob Savage, meddwl am enwau sili i blant ar drip cor i Iwerddon (er enghraifft: Cagl ap Brathach Williams)
3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?
Dwi'n rili hoffi'r enw Mared. Saimbo pam. A dos da fi ddim syniad enwe bechgyn. Lleu falle?
4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Ni fyddaf yn cyflawni dim o werth dros y penwythnos. Dwi byth yn gneud.
5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?
Dim syniad. Ond 'Taxi' Bryn Fon yw un o'r 'ffefrynau' ar hyn o bryd A diolch i bwy bynnag nath gynnig 'Capten' gan Catsgam uchod. Mae honno nawr yn sownd yn fy mhen.
Neges or capten i'r criw...ry ni'n suddo a does neb wrth y lliw...neges o'r capten i'r criw....neges o'r capten i'r BYD...