Pump am y Penwythnos - 26.5.2006

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 26.5.2006

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 26 Mai 2006 11:11 am

1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?

2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?

3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?

4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos? (sori, mae'r cwestiwn 'na'n crap)

5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?

Ymddiheuriadau. Pen tost.[/b]
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 26.5.2006

Postiogan Wierdo » Gwe 26 Mai 2006 11:17 am

1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?
Anaml iawn dwi'n gwylltio, blaw efo 'nghariad...felly man rhaid nas'ng 'nghariad oedd y peth dwetha i'm gwylltio!

2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?
Ddoe. Dwi heb wneud heddiw gan mai newydd ddeffro dwi...dwi'n ama (och a gwae) mai wrth wylio "My best friends wedding" oddo :wps:

3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?
Dwnim...Yr oll dwin gwybod ydi fod rhaid iddyn nhw fod yn enwau cymraeg, a swnin hoffi rhoi Glynne fel enwa' canol 'mhlant hefyd

4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Dim. Dim byd o gwbwl. Dwisho cal penwythnos o wneud dim. O, a peidio gwario fwy na £3 ar fwyd dros penwythnos (Lidl hiyr ai cym)

5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?
Ym...dwin ama fod na ormod i feddwl am...gosh...dim syniad...allai ddim meddwl am ganeuon o gwbwl!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos - 26.5.2006

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 26 Mai 2006 11:18 am

1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?

Y chwaer

2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?

Gweld llun o un o'm howsmets efo cyst

3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?

Marwaf a phrydru'n uffern cyn cael plant

4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos? (

Dw i'm yn gwybod eto. Ond yr ateb fydd; dim.

5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?

Does na'm ffasiwn beth. Pawb yn licio pethau gwahanol, tydyn?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 26 Mai 2006 11:19 am

1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?
Rhyfedd – newydd fod yn siarad am hyn. Yr ateb ydi nad ydw i yn cofio. Dwi’n cofio’r teimlad o weiddi a rhegi a bytheirio mor uchel nes fod fy ngwddw i'n brifo, a theimlo’r adrenalin rysh o gasau rhywun / sefyllfa, ond dydi o heb ddigwydd ers blynyddoedd. Dwi llawer mwy tebygol o fynd fel hyn dyddia yma: :rolio:

2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?
Gem guess who dros y ffôn, am y bobl mwya randym erioed (ydi, mae mywyd i yn llawn iawn :lol: )

3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?
Dilys

4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos? (sori, mae'r cwestiwn 'na'n crap)
Eistedd ar y tren a gadael iddo fynd â fi yn ôl i f'annwyl Riwlas :D

5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?
Dydw i erioed wedi licio Heno Heno Hen Blant Bach… mae ‘na ryw islais tywyll iawn iddi sy’n fy ngwneud i’n anghyfforddus
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Cymro13 » Gwe 26 Mai 2006 11:21 am

1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?
Pobl Politically Correct :drwg:
Liberal Democrats yn malu awyr

2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?
Noson comedi Cymraeg yn y Glee club Nos Fercher

3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?
___________ Ap Cymro13 sori methu meddwl

4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos? (sori, mae'r cwestiwn 'na'n crap)
Mynd i gig Twll Tin y Cwin +10

5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?
Unrhywbeth Daphnie and Celeste - Ma fe jyst yn boenus i wrando arno
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos - 26.5.2006

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 26 Mai 2006 11:21 am

1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?
Ddim yn gacwn wir ond fe wylltiais i. Gweld hysbyseb Digit-al ar S4C efo is-deitlau Cymraeg, pan fasa fo wedi bod yr un mor hawdd i roi troslais i'r robot bondigrybwyll. Diogi llwyr a diffyg parch.

2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?
Y ffilm "The Squid and the Whale" neithiwr. Da iawn, cerwch i'w weld o.

[Gol: dwi newydd gofio am un diweddarach. Chwarddais i'n uchel sawl gwaith wrth ddarllen sdori y Mabinogwlad yn Tu Chwith neithiwr. Go dda Macsen!]

3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?
Yyyym. Pass. Heb rili feddwl am y peth ddigon. Ond mi wna i ddeud mod i bron a bod yn Einion!

4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos? (sori, mae'r cwestiwn 'na'n crap)
Penwythnos dwetha? Dim lot. Llnau. Wpi-dw. Gobeithio cyflawni mwy penwythnos hyn, isio mynd i fyny i'r Llyfrgell Gen i weld arddangosfa Rhodri Jones cyn iddo fynd, a mynd lawr i'r ysgol gelf i weld gwaith y myfyrwyr.

5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?
Dwi'n trio blancio nhw o'm meddwl. At a push "No Way, No Way, manamana". Ddim hyd yn oed yn ddoniol o wael.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos - 26.5.2006

Postiogan joni » Gwe 26 Mai 2006 11:31 am

1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?
Hwn

2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?
Sai'n rhy siwr. Rhywbeth bach iawn siwr o fod. I'm a simpe man.

3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?
Dafydd Glyndwr ap Sion

4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos? (sori, mae'r cwestiwn 'na'n crap)
Sai'n siwr. Dwi angen prynu contacts newydd...felly dyna'r ateb [gach] ma'n siwr.

5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?
Ma gan pob gân ei le mewn cymdeithas er mwyn i ni fedru dehongli pwy sy'n dwat a phwy sy'n ok. Ond yr un gwaethaf erioed...erm...cân Embrace ar gyfer y World Cup.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos - 26.5.2006

Postiogan Chwadan » Gwe 26 Mai 2006 11:40 am

1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?
Dwi'm yn cofio. Byth yn gwylltio (byt dont trai mi :crechwen:).

2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?
"Cerdyn" (gift tag dwy fodfedd o hyd) gan gariad fy fflat-ffrind - efo "Good luck" wedi'i sgriblo ar y tu blaen a llwyth o swsus tu fewn.

3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?
Eryl neu rywbeth hidiys cyffelyb.

4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos? (sori, mae'r cwestiwn 'na'n crap)
Penwsnos yma lly? Naw awr o arholiadau (os dwi'n cynnwys y chwech ar wyl y blincin banc). Neu os penwythos dwytha, adolygu. Och.

5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?
Take On Me gan A1. Ma na ffordd o brofi mai hon ydi'r gan waetha erioed hefyd - os oes gennach chi gan yn sownd yn eich pen, dechreuwch ganu hon ac mi gymerith le y gan arall am weddill yr wythnos. Ac erbyn diwedd yr wythnos, hi fydd y gan waetha da chi erioed di glywed.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos - 26.5.2006

Postiogan Dwlwen » Gwe 26 Mai 2006 11:44 am

1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?
Rhywun tra 'mod i'n gyrru siwr o fod.

2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?
Big Brother wy'n meddwl :wps: Odd George yn mwytho coes yr un fach fach blonde fel 'se fe'n mwytho ci.

3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?
Odd un adeg pan o'n i'n benderfynnol y bydde 'Glain' yn ail enw neis i ferch. Wy 'di dod dros hwnna nawr.

4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Fi'n dost (peswch fel morlo ar hyn o bryd) felly gobeithiaf y medrai 1) fynd i weld P J Harvey heno heb ddiodde cweiiiit cymaint a 'nes i pan fwytais i caws drwg cyn gig Belle&Sebastian, a 2) byddai'n holliach unwaith eto erbyn dydd Sul, pan fyddai'n teithio nôl i'r Gelli i wrando awduron a chysgu mewn tent. Wy'n ffyddiog bydd y welis newydd yn gwarchod fi rhag pob drwg.

5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?
Y gân waethaf erioed yw Shiny Happy People gan REM, achos er gwaetha'r ffaith fod e'n hynod annoying, me'n gwneud fi wênu a mo'yn neidio rownd y lle fel ffwl bob tro.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 26 Mai 2006 11:48 am

1. Beth oedd y peth dwethaf i'ch gwylltio chi'n gacwn?
Erm saimo rili, rhwbeth i neud da un o howsmets fi siwr y fod, da un sy byth yn golchi fy stwff ar ol iwso nhw. Dim byd fawr, ond ma'n neud e trwy'r blydi amser. :x
2. Beth oedd y peth dwethaf i wneud i chi chwerthin?
Wylio y Mighty Boosh neithwr. "D'you remember the Boat Times?"
"That wasnt really a time, Gregg, it was more like Indecent Exposure" :lol:
3. Beth yw'r enw hoffech chi roi i'ch plentyn petai chi'n cael y cyfle?
Ma gwpl o syniade da fi, fi'n lico Gruffudd, Branwen, Rhys (fy enw canol).
4. Beth yw'r un peth i chi ei gyflawni dros y penwythnos?
Neud peth gwaith ar gyfer fy arholiad ola erioed yn Brifysgol. Gobeitho. Neu jesd wylio'r gem y Swans dydd sad, a myn am sesh ar ol ni. Hmm pa un? :?
5. Beth yw'r gân waethaf erioed a pham?
Hey Baby gan DJ Otzi. Ych a fi.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron