Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan krustysnaks » Gwe 02 Meh 2006 5:39 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
krustysnaks a ddywedodd:Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Ma nhroed dde i wedi bod yn brifo yn ysbeidiol ers cwpwl o wythnosau.

Manon a ddywedodd:Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Ma nhroed dde i wedi bod yn brifo yn ysbeidiol ers cwpwl o wythnosau.

Rhyfeddol. Ydych chi'n rhannu'r un traed?

Waw! Fflipin ec, ma hwna'n gyd-ddigwyddiad a hanner!
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pup am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Dewi Lodge » Gwe 02 Meh 2006 11:29 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Nafdda fel arfer, ond os dwi di bod ar y cwrw noson cynt ag yn gorfod teithio'n bell mewn car a ddim yn gyrru mae na beryg, fel arfer, fod Huwi am ddeud helo!!

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Rhegi!!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Pythefnos yn ol ym Milbo pan gesi gam gwag yn ganol lon a taro mhen ar y llawr. :wps:

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Seimlyd!!

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Diawl, dwnim! Dwi'm di cael dim i fyta nag yfad ers sbel, felly blas dim amwni. Blas ceg? Ia, blas ceg. Mi llneua i'n nannedd yn munud felly mi fydd gen i flas mint.
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Ioan_Gwil » Sad 03 Meh 2006 2:09 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?

M'ond os dwi'n yfed alcahol ne byta gormod o dda-da ar hyd y ffordd

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?

trio peidio meddwl am y peth

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?

ddoe, torri fy mawd efo cyllell wrth drio agor bag o fwyd gwartheg

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.

rebal, dipyn o lemon, ond mae yna lot di newid dros flwyddyn (gobeithio)


Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?

blas tabedi pro plus a kick (red bull ond fersiwn rhatach o tesco.) dwin trio sdwffio fy hun efo stimulants i gal fy hun i stydio.dion amlwg ddim n gweithio achos dwi ar maes-e!!
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Tegwared ap Seion » Sad 03 Meh 2006 2:17 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?

Nachdw i. Cofio mordaith o Lydaw - un o'r rhai hiiiiiiiiiir heini. Pawb yn y caban yn sâl felly mi benderfynnish i chwilio am damaid i'w fwyta - oni bron a llwgu a ffansi platiad o jips felly off a fi i'r caffi, a'r lle yn LLAWN plant yn chwdu dros bob man a criw'r llong yn handio sic bags allan fel fferins. Bu raid i fi fodloni ar baced o Jinjyr Nyts (y busgits).

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?

Chwerthin! (dyna nesh i'n Ffrainc pan o'n i'n sdyc ar lwyfan efo modfedd o ddraenen yn fy nhîn!)

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?

'Di bod igon anffodus efo'r beic yn ddiweddar - disgyn oddi arno a fynta'n segur :(

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.

Fel ydwi rŵan am wn i, jysd fel Psych yn llai streetwise. Ag oni ddim yn yfad dwi'm yn meddwl.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?

Blas...ceg am wn i. Tamed bach o ôl-flas siocled poeth bosib.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Mwddrwg » Sad 03 Meh 2006 2:29 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
dim ond os dwi'n hongian drosodd dyddie yma. o'n i'n arfer chwydu ar bob taith i Bow Street cyn cyrraedd Bala. bob tro. am tua 7 mlynedd...

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
trwy gicio rhywbeth yn flin, wedyn defnyddio'r boen fel esgus i yfed gwin

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
ges i 3 sgryffiniad hegar iawn i gefn fy llaw wrth drio agor potel o Corona efo goriad ddoe

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
light weight. chwithig. dechrau cael hwyl sbo

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
dwi newydd fyta afal, ac wedyn wedi tisian ambell waith, felly rhyw flas afal-annwydaidd :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Cawslyd » Sad 03 Meh 2006 3:27 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Nadw, erioed wedi 'chan.
Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Chwerthin drosto fo, achos dwi mor uffernol o clymsi ma bob damwain dwi'n gal eitha doniol. Fel pan nes i headbuttio piano. Aw.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Ges i ryw sblinter bach ddoe. Doedd o'm yn boenus iawn, ond mi oedd o'n sblinter.
Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Ymm.. 16 ydw i. A dwi'n hapus.
Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Newydd fyta porc pei. Neis iawn.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Sul 04 Meh 2006 1:15 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
dwi'n reit dda mewn car - cyn belled bo fi'm yn darllen. os di'r mor yn ryff dwi'n iawn mewn llon - cynbelled bo fi tu allan. awyren, byd (blaw rhif 42 i langefni - heibio niwbwrch - ych a pych) yn iawn.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
anwybyddu o ne cwyno hyd syrffed

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
crafu mraich yn erbyn wal rhyw noson allan wthnos dwytha.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
fel, Psych a TapS, llai streetwise. eitha diniwed, ofn hogia, a ffed yp. reit debyg i be dwi wan sbos. . . o ia, a llai ymmmm, arbrofol.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
cwrw nithiwr :gwyrdd:
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Daffyd » Sul 04 Meh 2006 3:57 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
O ni'n arfar mynd yn sâl ym mhob taith car yn car dad fi, ond erbyn hyn dwi'm rhy ddrwg. Awyren yn killar though.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Dydwi ddim. Fel arfer brifo fy hyn yn rwla arall, i gael gwared o'r poen. Brathu knuckle neu pincho fy hyn. Neu mynd yn pissed. 'Tis always an option.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Brifo, lly? Dwnim i ddeud gwir. Odd yr un dwytha lot yn ôl, ond dwi'n crafu'n hyn yn ddamweiniol yn amal. Yn enwedig wrth weithio allan.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Hapus, llon, diniwad ac anwybodus. Im lot di newid.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Wy. Neshi neud wy ar dost yn gynharach, ond nehsi losgi'r menyn o ni'n ddefnyddio i roi ar gwaelod y badall, so natho neu fi'n sâl. Curses.
We don't live in Ameri-can't, Steve. We live in Ameri-can. Oh no wait....
Rhithffurf defnyddiwr
Daffyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1423
Ymunwyd: Llun 05 Gor 2004 10:37 pm
Lleoliad: Caerdydd/Mynytho

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Sili » Sul 04 Meh 2006 8:59 pm

Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Ydw bob tro jest.

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Abiws i'r person sydd tu cefn i'r boen fel arfer yn gweithio. Neu chwara rhywbeth cyflym a pwerus ar y piano wastad yn help.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Dydd Gwener ar y ffordd i Aber. A hwnnw'n un drwg fyd, damia.

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
Hmm... Gwallt byr pigog coch llachar, gwyneb fel y galchen, chydig yn ormod o golur llygaid du, breichledau mawr neon yn gorchuddio mreichia a'r tueddiad i siarad Ffrangeg chwithig ar byliau, gwrando ar Rachmaninoff ar foliwm byddarol tra'n hybu fy nghariad at gin yr un amser.

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
Cymysgedd o'r Jack Daniels gynna a te llaethog. Niam niam.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 2/6/06

Postiogan Ffion1 » Sul 04 Meh 2006 9:24 pm

Dwlwen a ddywedodd:Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?

Na, byth

Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?

Sgrechian,mae hynna yn gweithio weithiau!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?

Dwi ddim yn cofio

Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.

Prat!

Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?

Gwin gwyn!
Rhithffurf defnyddiwr
Ffion1
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 636
Ymunwyd: Sad 06 Maw 2004 11:25 pm
Lleoliad: Llanelli

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron