Y’ch chi’n mynd yn sâl wrth deithio?
Dim ond mewn tacsis am ryw reswm
mi nesi chwydu wrth ddreifio unwaith
oni'n styc yn neud tua 10 m.y.a. y tu ol i garafan yn croesi'r flyover ynghanol Cynarfon ar banc holide poeth.
'Di bod yn yfed gormod o ddwr oni, nath y chwd hitio'r windscreen efo grym mwya. Eshi chwys oer, afiach.
Dwi jyst yn cofio rhoi'r weipars 'mlaen a dim byd yn digwydd - diwrnod rhyfedd
Sut y’ch chi’n ymdopi â phoen?
Cwyno.
Pryd oedd y tro diwethaf i chi gael dolur?
Crafu mhenglinia yn chwara 5-a-side ar astroturf bob hyn a hyn
Disgrifiwch eich hun yn 16 oed.
yn breuddwydio a mewn band
Pa flas sydd yn eich ceg chi nawr?
bisgendi 'nice'